Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HUNANGOFIANT GEORGE ROBERTS YR oedd y Parch. George Roberts (1769-1853) yn frawd i'r Parch. John Roberts (tad S.R.) gweinidog yr Hen Gapel, Llan-bryn-Mair. Rhai blynyddoedd yn ôl daeth gorwyres iddo, Mrs. Mary Roberts Scott* o Chicago ar daith i'r wlad hon yn ei meddiant yr oedd copi a wnaeth- pwyd gan ei thad, Thomas Roberts (1833-1913) o ddarn o hunangofiant o waith ei daid George. Rhoes fenthyg y llawysgrif i Mr. Edwin Evans, Llan-bryn-Mair, a'i copïodd. Trwy ei garedig- rwydd ef, caniatawyd i minnau wneuthur copi o'i gopi ef. Hwnnw a welir yma. Bûm yn ceisio cael rhagor o fanylion am y llawysgrif oddi wrth Mrs. Scott ond ni ddaeth ateb i'm llythyr. Ni ellais felly gywiro'r copi oddi wrth y gwreiddiol. Am fywgraffiadau byrion o George Roberts, gweler Montgomeryshire Worthies a'r Dictionary of National Biography. Teifl yr Hunangofiant oleuni diddorol ar aml bwynt er enghraifft, gysylltiad y fam â'r Sgafell a'r tad (taid S.R.) â Llan-bryn-Mair a hefyd gysylltiad John Roberts â'r un Ue cyn ei alw yno yn weinidog. Ond efallai mai'r adran fwyaf gwerthfawr o'r cwbl yw disgrifiad yr awdur o'i dröedigaeth, disgrifiad a all fod o bwys mawr i seicolegwyr ac eraill. Hyd y gwn, ni chyhoeddwyd yr hunangofiant erioed o'r blaen, ond ymddengys i mi fod darnau ohono'n sylfaen i rannau o'r nofel Dial y Tir (W. Ambrose Bebb). IORWERTH C. PEATE. *Gweler Bebb Genealogy (Chicago, 1944), rhif 76.