Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Tywysog Cymru. Ar y 15 fed o Fai, 1832, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn misol bychan dan olygiaeth J. W. Thomas (Arfon- wyson) yn dwyn yr enw Tywysog Cymru neu Drysorfa o Wybodaeth Fuddiol ac Adeiladol, yn cynnwys Sylwadau ar Bethau Angenrheidiol Mewn Naturiaeth a Duwinyddiaeth; yn nghyd a Barddoniaeth, Hanesion Cartrefol a Thramor, ac Amrywiaeth. Cylchgrawn cyffredinol ydoedd hwn eto, ac argraffwyd ef dros y cyhoeddwr, y Parchedig J. P. Thomas gweinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mangor, gan William Potter, Caernarfon. Gesyd Arfonwyson bolisi'r cylchgrawn mewn llythyr 'At y Cymry' yn y rhifyn cyntaf.8 Dywaid nad oedd a wnelo'r cylchgrawn â daliadau crefyddol unrhyw enwad neilltuol, ond ei fod yn gwbl rydd i unrhyw blaid a chwenychai ei achlesu. Cedwid pob cecraeth anfuddiol allan ohono, ond croesewid gwrthwynebiadau i unrhyw ddaliadau, os byddent yn deg. Ei fwriad ydoedd cynyddu gwybodaeth, dyrchafu rhinwedd, ac ymosod ar bechod a gwyd. Byddai ynddo Ie i'r athronydd a'r seryddwr, y celfyddydwr y morwr a'r daearydd, a chwedl Arfonwyson: 'Neilltuir hefyd, ddosbarth i ddiwyllio y Gymraeg, a'i hyweddu at wyddorion nad yw hyd yn hyn yn gyfrwng iddynt, ac yn hyny, dymunem gynnorthwy pob Cymro hyfedr.'9 Ymhen chwe mis fodd bynnag ymddiswyddodd Arfonwyson, ac mewn llythyr 'At Oebwyr a Derbynwyr Tywysog Cymru' yn y rhifyn am Dachwedd dywaid fod gwr arall 'mwy cyfleus i gyflawni y swydd yn weddus' yn cymryd ei le.10 Yn yr un rhifyn, cyhoeddwyd llythyr o eiddo Caledfryn y golygydd newydd, yn dangos fel y gorfodwyd Arfonwyson i ymddis- wyddo drwy ei fod yn byw mor bell oddi wrth y wasg, ac fel y 'taer erfyniwyd' arno ef i olygu'r Tywysog yn ei le. Dywaid ymhellach y bydd iddo ef ddilyn polisi Arfonwyson, ac y cais gadw'r cylchgrawn bob amser yn 'hollol rydd ac anmhIeidgar.' Ond ni fu Caledfryn yn hir fodd bynnag, cyn dangos pa mor bleidgar ydoedd. O fis i fis ffrewyllai'r Torïaid a'r Eglwys Sefydledig a John Elias yn ddidostur mewn ysgrifau bachog, ac yn ddiau collodd lawer o'i gefnogwyr oherwydd hynny. Ceisiodd adfywio'r cylchgrawn drwy gyfieithu erthyglau bychain o'r Penny Magazine ar destunau amrywiol megis, ■ Y Wehfol/ 'Y Banana,' 'Y Pathew,' a'r 'Twrch Daear,' a 8 Tywysog Cymru, 15 Maf, 1832, t. 1. 9 Tywysog Cymru, 15 Mai, 1832, t. 1. 10 Tywysog Cymru, Tachwedd 1832, clawr.