Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

y tu allan i Gymru. Yr oedd ganddo, fel llawer iawn o'r cenhadon, ddawn ieithydd da. Ef a gyfieithodd rannau helaeth o'r Beibl i'r Dahiteg, ond rhoddwyd y clod i gyd i Sais o'r enw Henry Nott. Heblaw'r gwaith hwnnw, cyfieithodd John Davies Daith y Pererin, ynghyd â dau gatecism a mân lyfrau eraill. Ef hefyd a baratôdd y llyfr gramadeg a'r geiriadur a fu o gymaint gwerth i'r rhai a'i dilynodd. Cyfansoddodd emynau, ac o bosibl rai tonau hefyd, -a hyn oll gan ddyn na chafodd ond tri mis o addysg elfennol ffurfiol. Ni fedrwn yma adrodd hanes y gwaith cenhadol ar ynys Tahiti a'r ynysoedd eraill yn y rhan honno o'r Môr Tawel. Ond rhaid cyfeirio at arwriaeth y Cristnogion brodorol cyntaf. Bu llawer ohonynt farw dros eu ffydd ar allorau Oro, y duw paganaidd. Enillodd y ffyddloniaid lawer o edmygedd ar sail eu hagwedd gymodlon a maddeugar tuag at eu gelynion. O dipyn i beth daeth newid mawr dros fywyd yr ynys, a'r cenhadon a luniodd y corff cyntaf o gyfreithiau ar gais y brenin, a sefydlu llysoedd i weinyddu cyfiawnder. Wedi iddo glywed am waith y cenhadon Protestannaidd yn Ynysoedd Môr y De, cyhoeddodd y Pab Leo XII ym Mehefin 1833 ei fwriad i sicrhau fod yr ynysoedd hyn i ddod o fewn corlan yr Eglwys Rufeinig, a hynny er fod llu afrifed o ynysoedd yn y cefnfor hwnnw nad oedd wedi clywed sôn am Iesu Grist. Gyda chefnogaeth filwrol Frainc gorfodwyd brenhines Tahiti i roi ffafriaeth arbennig i offeiriaid Pabyddol. Mewn byr amser yr oedd Ffrainc wedi cymryd meddiant llwyr. Dyna'r sefyllfa a fu'n faich ar enaid John Davies yn mlynynddoedd trist olaf ei oes. Ond y gwr a gysylltir ag ynysoedd y Pasiffig yn anad neb arall yw'r gwron a'r merthyr John Williams. Fe'i ganwyd yn Llundain yn yr union flwyddyn pan sefydlwyd Y Gymdeithas Genhadol. Un ar hugain oed ydoedd pan gyrhaeddodd Tahiti, ac nid oedd ganddo fawr i'w gynnig heblaw ei brentisiaeth fel gof a'i angerdd genhadol. Yn ddiamheuol y polisi a fu'n fwy cyfrifol na'r un arall am lwyddiant rhyfeddol yr ymgyrch yn y parthau hyn oedd defnyddio Cristnogion brodorol i fynd â'r Efengyl o ynys i ynys. 'Roedd John Williams yn un o'r arloeswyr gyda'r polisi hwn. Gwelodd na fedrai sylweddoli ei obeithion heb long, ond ar y pryd nid oedd y cyfarwyddwyr yn Llundain o'r un meddwl ag ef, yn ôl pob tebyg am resymau ariannol. Eithr nid gwr i anghofio'i freuddwydion oedd John Williams. Gyda chymorth Cristnogion Rarotonga dyma fwrw at y dasg o adeiladu llong drigain troedfedd o hyd a deunaw o led. Gan nad oedd y defnyddiau angenrheidiol wrth law, nid oedd dim amdani ond arfer dyfais a defhyddio'r hyn a oedd ar yr ynys. Cwblhawyd y gwaith o fewn pymtheg wythnos, a galwyd y llong yn Messenger of Peace. Nid hi oedd y llong fwyaf gosgeidig i hwylio'r moroedd, ond bu'n gyfrwng tra effeithiol i ddwyn tangnefedd Crist i ynysoedd y byddai masnachwyr gynt yn eu hosgoi gan mor anwar oeddent. Pan welodd masnachwyr ei bod bellach yn ddiogel i ymweld â'r ynysoedd hyn, gwelwyd effeithiau dinistriol eu cynllwynion yn mewnforio diodydd meddwol er mwyn manteisio ar y brodorion syml. Gymaint oedd yr