Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEMOCRATIAETH BERYGLUS-BRWYDR Y DDAU GYFANSODDIAD* Sefydlwyd yr ysgol a ddaeth yn Athrofa'r Annibynwyr neu Athrofa'r Gogledd yn Y Bala ym 1842. Bu am ysbaid fer cyn hynny yn Llanuwchllyn. Bwriedid yr ysgol ar gyfer ymgeiswyr ieuainc am y weinidogaeth ac yr oedd yn ymgais i ddileu Jacyddiaeth. (Jacs oedd term y cyfnod am bregethwyr anllythrennog).' Penodwyd y Parchg. Michael Jones (1787-1853), a fu gynt yn weinidog yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, yn athro cyntaf yr ysgol. Gwr o Sir Aberteifi ydoedd yn wreiddiol a'i rieni yn Wesleaid. Bu farw ym 1853 ac olynwyd efyn brifathro'r athrofa gan ei fab Michael Daniel Jones.2 Bu Michael Jones ei hun mewn helynt blin a hirfaith gyda charfan o'r aelodau yn Llanuwchllyn a gafodd yr enw yr Hen Bobl a gorfu iddo gilio o'r capel am ddeng mlynedd bron.3 Yr oedd Michael D. Jones felly wedi ei fagu yn swn helynt yn Llanuwchllyn ond bu'n rhaid iddo wynebu sawl helynt ffyrnicach yn ystod ei yrfa ei hun. Addysgwyd ef yng ngholegau Caerfyrddin a Highbury, Llundain. Aeth i America ac urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Gymraeg yn Cincinnati, Ohio ym 1837.4 Dychwelodd i Gymru ac ar farwolaeth ei dad penodwyd ef yn brifathro yr Athrofa yn Y Bala ac yn weinidog ar nifer o eglwysi annibynnol yn y cylch. Bu dadlau am natur yr Athrofa, am safon a natur yr addysg ac hyd yn oed am y safle o gyfnod penodi Michael D. Jones ac yr oedd gwyr o bob rhan o'r wlad yn ymlythyru ac yn cyhoeddi erthyglau yn y wasg i leisio barn o bob math. Aeth dadl resymol yn ddadl losg a dadl losg yn gynnen ac y mae hanes yr Athrofa o bumdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd y nawdegau yn gyfres o helyntion a chwerylon, y naill bron yn arwain i'r llall-Michael D. Jones ynghanol bob un-a'r cyfan yn arwain at y brif ddadl yn niwedd y saithdegau sef, pwy oedd i reoli'r Athrofa a sut oedd gwneud hynny. Erbyn diwedd y pumdegau yr oedd cryn feirniadu ar safon yr addysg yn yr Athrofa ac ar y cwriciwlwm. Dywedid fod myfyrwyr yn cyrraedd yr Athrofa yn anllythrennog ac yn gadael yn anllythrennog. Gwnaed beirn- iadaethau fel hyn mewn tair erthygl yn dwyn y teitl 'Ein Hathrofaau' a ymddangosodd yn YDysgedydd ym 18625 ac y mae'n amlwg mai Athrofa'r Bala oedd y prif darged. Dywedodd y Dr. Evan Pan Jones (1834-1922) hyn amdanynt: ysgrifau ydynt mor llawn o wenwyn ag y gellid eu gwneud. Trinid Athrofa y Bala fel sefydliad gyda dirmyg, teflid Uwch am ben y myfyrwyr, a sethrid yr Athraw yn y dull mwyaf angharedig.'6 Buan y daeth i'r amlwg mai'r Parchg. William Ambrose (Emrys; 1813- 1873), Porthmadog, oedd awdur yr erthyglau-Phineas oedd ei ffugenw.7 Atebwyd yr erthyglau gan Michael D. Jones yn Yr Annibynwr.