Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Arthur Jones oedd apostol dirwest y cyfnod hwnw, a Caledfryn oedd wrthwynebwr cyhoeddus iddi, ac yn y ffydd hono y bu farw. Cadwai rhieni William Ambrose ddioty mawr yn Bangor, a Caledfryn a mab y Penrhyn Arms a aethant yn gyfeillion, a pharhasant felly hyd amser Eisteddfod Llundain pan ddenodd Ambrose, Caledfryn i ddangos iddo yr awdl oedd wedi barotoi ar gyfer y gystadleuaeth, gan sicrhau nad oedd efe yn cynyg, ond wedi ei chlywed efe a aeth adref ar frys ac a nyddodd awdl benigamp, yr hon, er siom i Galedfryn, a enillodd y gadair. Ni heliwyd Arthur Jones yn gyhoeddus ar 01 hyn, yn unig saethid ato o'r tu ol i'r gwrychoedd. Daeth dyn y 'Wagen fawr' un diwrnod a sypyn anferth o lyfrau iddo 0 Lundain, tybiodd mai ei fab, yr hwn oedd yno ar y pryd oedd wedi eu hanfon. Drwy ei fod yn sypyn mawr, y ffordd yn mhell, heb railffordd fel yn bresenol, yr oedd y clud-dal yn uchel. Ond wedi talu ac agor y box cafwyd nad oedd ynddo ond swp o briddfeini, bricks. Cafwyd allan yn fuan pwy o wyr y Gargantua oedd yn Llundain yn supplio ar y pryd. Buasai amgylchiadau fel yna yn addurn i 'adgofion unrhyw weinidogaeth'. (Mae Adgofion fy Ngweinidogaeth yn deitl cyfres o ysgrifau yn Y Dysgedydd gan Emrys. A dyma oleuni newydd, efallai, ar y llinellau: O! mor hoff yw cwmni'r brodyr Sydd â'u hwyneb tua'r wlad, Heb un tafod yn gwenieithio Heb un fron yn meithrin brad Na hidiwch, mae'n emyn gwych. Hefyd y mae 'Adgofion' Emrys yn hynod ddiddorol.) Wel, fe gewch ddarllen am ystrywiau Gargantua yng Nghapel Helyg ac yn Heol Awst ac yn 'eglwys y cwrw', sef Pendref, Bangor. A diddorol i Annibynwyr Caernarfon fydd darllen sut yr aeth castiau Gargantua, dan arweiniaeth Caledfryn, yn ormod i rai ym Mhen- y dref honno, nes eu gyrru allan i ffurfio 'rhwyg-eglwys' (chwedl Pan), Joppa i ddechrau, ac yn y man Salem. Cewch hefyd dransgript cyfan o achos llys ble 'roedd cyd-weinidog gyda'r enwad, C.R. Jones, yn erlyn Pan am enllib. Daeth yr achos i ben gyda dyfarnu ffyrling o iawndal i'r achwynydd. Efallai yr hoffech glywed yr hyn y mae Pan yn ei alw'n 'drefn-rhestr (catalogue)' o holl gwynion Gargantua yn erbyn Michael D Jones: amheuaeth am ei dduwioldeb; ei fod yn bysgotwr medrus; y medrai saethu ysgyfarnog; ei fod yn gwisgo clos penglin; ei fod yn myned yn erbyn rhagfarnau yr oes; ei fod yn ddyn anhyblyg ei ysbryd; nad oedd yn ddigon efengylaidd; nad oedd yn derbyn cyffesiadau dynol yr ail ganrif-ar-bymtheg; nad oedd yn ddigon profiadol fel Cristion a Gweinidog; nad oedd yn medru llefaru yn y cywair lleddf; nad oedd yn ddigon o ysgolhaig; nad oedd ganddo duedd at ei waith nid oedd yn ddigon parchus gan y myfyrwyr, ac i goroni y cwbl, yr oedd yn ddwfn yng nghafael pechod gwreiddiol, neu o'r hyn lleiaf, pechod a gwreiddiau iddo, yr oedd yn cadw barf. Gwaith yn yr un cywair, ac yn gynnyrch yr un amgylchiadau, yw YDydd Hwn neu Annibyniaeth yn Symudfel Cranc, ymgais Pan Jones i osod ar ffurf drama holl ymrafaelion yr Annibynnwyr rhwng 1862 ('Blwyddyn yr Un Coleg') hyd 'Gyflafan yr Amwythig', Gorffennaf 1879. Drama fydryddol ydyw, ond mae'n rhaid darllen ymlaen dipyn bach cyn y dechreuir clywed unrhyw fydr: