Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

weithio tuag at fath newydd o wleidyddiaeth na alwai am deyrngarwch i blaid arbennig ac a ellid ei gweld fel un benodol Gristnogol. Ymddangosai o leiaf yn bosibl y gallai'r Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol dros Gymru fod wedi cyflawni'r swyddogaeth olaf hon ond tueddai i gadw draw rhag y bywyd gwleidyddol a hyd yn oed rhag prif-ffrwd y bywyd eglwysig. Ymddengys nad oedd yr Ysgol nac Undeb Annibynwyr Cymru wedi ystyried cam mor gymedrol â throi at y llywodraeth ynglyn â'r materion dan sylw. Yr ail brif wendid oedd, er gwaethaf y sylw a gawsai materion cymdeithasol mewn cyhoeddiadau a chynadleddau Cristnogol, fod yr Anghydffurfwyr Cymraeg yn bendant wedi methu â'u troi'n fesurau ymarferol. Hyn sydd bron yn sicr y tu ôl i gyhuddiad Davies o 'ddistaw- rwydd' yr eglwys. Ni fu'n ddistaw o bell ffordd. Cafwyd deuddeg adroddiad C.O.P.E.C., adroddiad o'r Gynhadledd Ryngwladol ar Fywyd a Gwaith a gynhaliwyd yn Stockholm ym 1925, heb sôn am y llu o gyhoeddiadau yn delio â'r Cenadwri Cristnogol a materion cymdeithasol. Yr hyn a drawsai Davies oedd pan yr oedd angen dillad a bwyd ar y bobl, na fedrai'r eglwys eu darparu na gofalu eu bod yn cael eu darparu gan yr awdurdod priodol. Daeth beirniadaeth o'r fath fel canlyniad naturiol i'r ddiwinyddiaeth ryddfrydol a fabwysiadodd Davies ac eraill. Yr oedd y bersonoliaeth ddynol o'r gwerth pennaf ac o'r herwydd yr oedd iddi rai hawliau cynhenid a sylfaenol, a'i thasg foesol ar yr un pryd oedd sefydlu'r Deyrnas lle y diwellid angen pawb. Y cyhuddiad mwyaf damniol yn erbyn yr holl gyfnod yw, er i ddiwinyddiaeth o'r fath gael ei derbyn yn gyffredinol, na ddaeth fawr ddim ymarferol ohoni o gwbl. Yn y pen draw, dibynnai'r dasg o roi cymorth uniongyrchol i ddioddefaint trwch y boblogaeth ar egni a thosturi gweinidogion unigol lleol megis Alban Davies. Casgliadau Dull yr enwadau Anghydffurfiol at ei gilydd, dan arweiniad diwinyddion yr Annibynwyr Cymraeg, oedd addysgu'r unigolyn i'r bywyd moesol. Yn wreiddiol datblygodd hyn mewn ymateb i'r bwnc dirwest. Yn nhyb llawer un, anghymedroldeb, a chyfrifoldeb personol yn ei sgîl, oedd y prif reswm dros dlodi a bywyd y slymiau. Anerchodd y Parchg. D.J. Lewis, Y Tymbl, gyfarfodydd yr Undeb ym 1912 a mynnodd fod yn rhaid cael cymedroldeb cyn diwygio cymdeithasol, neu fel arall cwyn yr eglwys cyn hir fyddai 'gwell tai on gwaeth dynion'. 'Trwy y dyn y perffeithir yr amgylchedd', meddai.51 Agorodd yr ymboeni am ddirwest y ffordd i ymdriniaeth ehangach o bynciau cymdeithasol52 ond ystyriai rhai mai ei weithredu oedd yr unig ddiwygio yr oedd ei angen. Dengys hyn y tyndra cyffredinol a geid ar y pryd yn agwedd Anghydffurfiaeth tuag at y broblem gymdeithasol. Yr oedd dynion yn yfed, medden' nhw, am fod eu hamgylchiadau byw a gwaith yn wael. Dyna a gredai'r mudiad llafur a Keir Hardie.53 Yn wir, dywedodd Miall Edwards rywbeth tebyg pan sylwodd 'prin y gall enaid dyn dyfu i'w bosibilrwydd