passengers y Light House am 10 or gloch o'r nos a bore dranoeth yr oeddem ar bwys tir ag yr oedd yr olwg yn gyffelyb ir Doleu bach nid oeddem ni yn gaily gweled y Caeau gan mor wastad oeddynt ar coed yn taflu drostynt ag ni a ddaethom oddeutu 60 milltir gyda'r tir or South ir Gogledd ag ni a ddaethom ir Quarantine i sefyll am 2 or gloch prydnhawn a chwedin fe gas y passingers ar sailers orchymyn i olchi cymaint oedd o ddillad brwnton ag oedd ganddynt gwedin fe ddwedodd y captain fod e'n meddwl y gallasem roddi ein dillad ir Golchdy oedd yn belongo ir Quarantine a phan ewd a nhwy yno yr oedd hi yno yn llawn ag yn ol y daethant ag yr oeddem ni yn enwedig yn ddigon diflas wrth ei gweled nhwy yn dyfod yn ol canys dillad gwlenyn oedd gennym ni fwyaf ag felly ni a wnaethom riw fath o olchad o honynt a Dwfr Gwlaw ag oeddem gwedi ei lanw ir Hester pan yr oedd hi yn bwrw a bore y 29ain fe ddaeth Hester bychan i'n ymhofyn ir Cei o flaen y Quarantine a ni a a geisom agor ni a rhest or passinges i agor ei packau ar Boxes i gael gweled a oedd y dillad a oeddynt yn lân a chael gweled a oedd dim yn anghyfreithlon yn dyfod i mewn a chwedin oddi yno lawr ir dref ag erbyn hynny yr oedd hi yn nos, ag yr oedd hi yn ddiflas arnom felly ar y Cei heb wybod pa le y buasem yn cysgu y noson honno ag yr oedd y Colera morbus yn y dref ag yr oeddem yn clywed rhai yn dweud fod mwy na 10,000 o storages (shoppau) gwedi ei cau ar dynion gwedi ffoi am ei Bywyd ir wlad ers o ddeutu 6 wythnos yn 61 ag yr oeddynt yn dechrau dyfod yn ol pan yr aethom ir Ian ond am ein Lodgings ni a lwcsiom yn dda iawn canys yr oedd y Tow-Boat sef y rhai y mae y steam Boats yn ei llusgo ar hyd yr afonydd ni a gytunasom a hwnw am Ddoler yr un fyned i Albany a rhai dan 12eg oed am yr hanner a rhai dan 2 flwydd oed am ddim a yr oedd ein lodgings am Ddim hyd nes byddem yn myned i bant sef ar y 4ydd dydd. ni a welsom lawer iawn o gymru yn New York o sir fon a sir fynwe ag o siroedd Eraill a chymro o sir fynwe an cyfarwyddodd ni at office y Tow Boat ag fe gas nhad afael yn nhy ei frawd Benjn Thomas Gynt ag nid oedd ond un or merched yn fyw sef yr hynaf Mary Thos. yn 23ain oed a phan yr aeth fy nhad ir Ty attynt hi a gollodd y dwfr oi llygaid a hi a ddaeth i lawr attom ni ir Tow Boat a hi an gwahoddodd ni Drannoeth ir Ian ag ni a aethom ac a gawsom bob greso gyda hi ai Llysdad ai llysfam cymry oedd ei Llysdad ai Llysfam ond nid oedd hi yn galler ymwlya cymraeg ag yr oedd hi y[n] gallu dyall cymraeg yn byrion a hi a ddaeth i lawr in hebrwng ir Llester mewn Carriage a mam a nhad a Simon gyda hi ynddo a chwedin yr oeddem yn myned i bant drannoeth fe fu un peth yn anghof arnaf i hysbysu i chwi sef i mary fach gael y frech goch ar ol y frech wen ag ni chas hi ddim ffisig ar ol y frech ag fe gododd rhiw beth fel scurfu arni ar ol y frech ag fe fu yn agos cael myned ir hospital o achos hynny fe gas