Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BENJAMIN WILLIAMS (' GWYNIONYDD '), 1821— 1891* §1. TEULU A GYRFA YN 61 un cofiannydd nid oedd enw Benjamin Williams ('Gwynionydd') agos mor adnabyddus yng Nghymru yn gyffredinol ag y gallesid disgwyl iddo fod'. 'Meiddiaf ddweyd', meddai ymhellach, 'fod dynion llawer llai nag ef yn llawer mwy adnabyddus yn ein gwlad.'1 Eithr nid i gywiro camwri ac esgeulustod o'r fath y cychwynnwyd yr ymchwil hon, ond yn bennaf oherwydd derbyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru^yn ystod 1953-5 gasgliad helaeth o'i lawysgrifau a'i lythyrau, gyda llawysgrifau Uenorion a chrefyddwyr eraill, o lyfrgell ei wyr David Pryse Williams (' Brythonydd 1878-1952), gweinidog yn eu tro ar eglwysi Bedyddwyr Ffynnonhenri, 1910-13, Philadelphia, Abertawe, 1913-20, a Libanus, Treherbert, o 1920 hyd ei farw ar 27 Hydref 1952.2 Ni wyddai Myfenydd Morgan ddim o bwys am fachgendod Gwynionydd Nis gwn ddim am ei dad, ond gwn nad oedd o'r un chwaeth Gymreig a'i fab, neu ni fuasai byth yn rhoddi iddo yr enw estronol Benjamin Yn ffodus, serch hynny, y mae cryn dipyn mwy o arweiniad i'w hanes bore wedi ei gadw mewn adroddiad i'r wasg o bapur ar ei fywyd a ddarllenwyd gan Owen Evans, Brongest, o flaen Cymdeithas Ddiwylliadol Eglwys Annibynwyr Hawen yn Nhrefdroyr (Troed-yr-aur) ar i Rhagfyr 1915.3 Fe'i ganed, meddir, ar 24 Mehefin 18214 mewn bwthyn bychan o'r enw Seilach ar stad Gogerddan yn nwyrain plwyf Penbryn, hwnnw'n gartref teulu ei fam, Hannah, ferch Ismael Jones,5 hithau'n gar i'r Parchedig Benjamin Evans, Dre-wen. Priodwyd hi yn eglwys blwyf Penbryn trwy ostegion ar 7 Ebrill 1821 a David Williams o Drefdroyr, dyn cymeradwy a defnyddiol', mab i Benjamin Williams o Fach-y-rhew, bwthyn arall ar ael y fron gyferbyn a Phenrallt-y-gwin ac ar dir Esgergraig'. Ym mam Gwynionydd ei hun,6 yr oedd rhyw falchder tylwythol yn perthyn i'w dad, rhyw ymdeimlad nad oedd efe yn y cylch y dylasai fod', ac y mae'n ddiddorol fod y mab, yn ei gasgliad achau ei hun yn Llyfr Gwyn y Wenallt (N.L.W. MS. 15753), ar ochr ei dad, nid yn unig yn honni perthynas agos a'r Canghellor Daniel Silvan Evans (' Hirlas 1818-1903)-yr oedd D.S.E. a thad Gwynionydd yn gefndryd, meibion dwy ehwaer-ond yn fwy arbennig yn olrhain ei dras i hen deulu Cymreig ac henafol Llanborth ym Mhenbryn ac yn wir drwyddynt hwy at Arglwyddi'r Tywyn a Chadifor Fawr. *Seiliedig ar anerchiad a draddodwyd i'r Gymdeithas yn Aberaeron, 28 Hydref 1967.