Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEREDIGION CYLCHGRAWN CYMDEITHAS HYNAFIAETHWYR CEREDIGION JOURNAL OF THE CEREDIGION ANTIQUARIAN SOCIETY CYFROL/VOLUME X 1986 RHIFYN (NUMBER) 3 'CANNWYLL DISBWYLL A DOSBARTH': GWYR CYFRAITH CEREDIGION YN YR OESOEDD CANOL DIWEDDAR' 'Judicious civilians, skilful common lawyers'; 'excellent in the Civil laws'. Pan ysgrifennodd William Camden a George Owen y sylwadau hyn, enillasai'r Cymro eisoes le clodwiw iddo'i hun fel cyfreithiwr craff a threiddgar yn llysoedd barn ei ddydd.2 Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, gellir olrhain gyrfa rhai o fechgyn ieuanc y wlad a fanteisiodd ar y ddysg gyfreithiol a gynigid ym mhrifysgolion Lloegr neu a elwodd ar hyfforddiant werthfawr Ysbytai'r Frawdlys yn Llundain, a daethai'r disgleiriaf yn eu plith i addurno rhai o swyddi amlycaf byd ac eglwys y cyfhod. Ond er gwaetha'r ymwybod am le haeddiannol y gwr cyfraith yn hanes Cymru yn oes y Tuduriaid ac wedyn, ychydig o sylw a roddwyd ar y cyfan i'w gymar yn yr oesoedd canol ac i wreiddiau a datblygiad yr alwedigaeth cyn y Deddfau Uno.4 Yn hytrach, natur y gyfraith a weith- redid yn llysoedd barn Cymru, cynnwys cyfoethog llawysgrifau'r gyfraith frodorol, a phwysigrwydd y gyfraith honno i hanfod cenedlig- rwydd y cyfnod yw'r materion a aeth a bri'r hanesydd, a mawr yw ein dyled i'r rhai a fu'n goleuo corneli tywyll yr agweddau pwysig hyn ar hanes ein gwlad. Ond dros dair canrif cyn i George Owen a Camden ganu clodydd y gwr cyfraith o Gymro rhoesai Gerallt Gymro, yntau, ei gymer- adwyaeth frwd i feddwl treiddgar a chraff y Cymro, i arabedd ei ymadrodd a'i ddefnydd celfydd o rethreg wrth iddo fynd i gyfraith. 'Yn achosion a gweithredoedd y gyfraith, ac mewn llys baro. nid esgeulusant yr un rhan o rethreg, sydd yn hollol naturiol, wrth rwydo, ensynio, dyfeisio, cyfleu, gwrthbrofi ac ategu', meddai Gerallt. Ond er gwaethaf ei sylw ar ddoniau cynhenid y Cymry, 'erys y ffaith nad yw'r modd yr hyrwyddwyd y cyneddfau hynny mewn dysg a hyfforddiant ffurfiol wedi denu ein sylw yn agos i'r un graddau. Ar un olwg, nid creadur hawdd i'w