Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'GALAR HEN HIL Rhestrir 759 o faledi a argraffwyd yn y ddeunawfed ganrif yn llyfryddiaeth J. H. Davies.1 Mae hyn yn dangos mor boblogaidd oedd y cyfrwng, yn enwedig yn siroedd y gogledd. Erbyn hyn, efallai bod llawer ohonynt yn fwy pwysig am eu gwerth cymdeithasol yn hytrach na fel llenyddiaeth. Difyr felly oedd dod ar draws faled prin sydd yn cyfeirio at drychineb a ddigwyddodd yn Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth. Cyhoeddwyd y faled ym 1784 felly mae'n debyg i'r peth ddigwydd ychydig o fisoedd, hyd at flwyddyn, cyn hynny. Mae'r faled 'Yn rhoddi byrr hanes am Farwolaeth fawr fu'n Sir Aberteifi Ymhlwy Llanbadarn-Fawr. Fe gladdwyd yno er Calen gaia i Galmai, Saith gant a chwech or Plwyfolion. Bydded hyn yn rhybydd i nine feddwl am ein diwedd'. Mae'r faled gan awdur go enwog, sef Ellis Roberts neu Elis y Cowper, sydd yn adnabyddus fel anterliwtiwr hefyd. Yr oedd Elis y Cowper yn byw ym mlwyf Llanddoged ger Llanrwst. Ni wyddom man na dyddiad ei eni ond bu farw ym 1789. Cowper oedd wrth ei alwedigaeth a bywyd digon tlodaidd a gafodd. Gwneud llestri pren oedd gwaith cowper, llestri ar gyfer y ty a'r llaethdy ond hefyd casgenni ar gyfer tafarndai a bragdai. Dyna oedd problem Ellis Roberts. Wrth weithio o ddydd i ddydd yn y dafarn daeth yn or-hoff o'r ddiod ac yr oedd hyn yn un o'r brif resymau dros ei dlodi. Priododd pedair gwaith; cafodd ras yn y diwedd meddai priododd fel ei bedwaredd wraig merch o'r enw Grace. Yr oedd llond ty o blant yn ych- wanegu at ei dlodi ac yn pwyso'n drwm arno. Cyfansoddai a gwerthai bale- di ac anterliwtiau i geisio lleihau ei ddyledion ac awgrymwyd mai dyna paham mae wedi ysgrifennu cymaint. Yr oedd, fel pob baledwr, yn cael llawer o'i ddefnydd o drychinebau a llofruddiaethau a digwyddiadau erchyll eraill yn debyg iawn i llawer o gynnwys rhai papurau newydd hyd ein dydd ni. Yn wahanol i'r rheini yr oedd yn ceisio clymu'r digwyddiadau hynny wrth alwad am edifeirwch a gwell buchedd er mwyn osgoi tynged erchyll. Er ei fod yn byw yng nghanol y llanw Methodistaidd, yr oedd gas ganddo'r mudiad newydd a'r hen Ymneillduaeth. Wrth ystyried y faled a argreffir isod, mae'n bur amheus a fu'r Cowper yn agos i Llanbadarn Fawr erioed; clywed am y digwyddiad a wnaeth a throi'r dwr i'w felin ei hun. Wrth ystyried y nifer mawr a fu farw cofier bod plwyf Llanbadarn Fawr yn llawer ehangach nag yw heddiw ac yn