Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANES BORE CHWAREL DINORWIG GAN EMYR GWYNNE JONES Rhai blynyddoedd yn ôl bellach, trosglwyddwyd i Lyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor, gan Gorfforaeth Tref Gaernarfon, gasgliad o dros 50,000 o bapurau a dogfennau a oedd wedi ym- gronni yn swyddfa un o hen dwrneiod y dref yn ymyl Porth-yr- Aur. Hwn yw un o'r casgliadau pwysicaf a chyfoethocaf a fedd y coleg, nid yn unig o ran ei faint, ond oherwydd ei werth fel ffynhonnell-ddihysbydd bron— o hanes cymdeithasol ac eco- nomaidd siroedd Caernarfon a Môn yn y cyfnod 1760-1830. Cynnwys rai cannoedd o bapurau sy'n taflu goleuni llachar ar ddechreuad y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, ac yn eu mysg dri bwndel sylweddol yn ymwneud â hanes cynnar chwareli Dinorwig o'r flwyddyn 1787 hyd flwyddyn Waterlŵ yn 1815. Ar y rhain yn bennaf y seiliwyd yr ychydig sylwadau a ganlyn. Dylid nodi ar y dechrau fod hanes cloddio am lechi hyd ochrau'r Elidir yn hvn o gan mlynedd o leiaf na'r cofnod cynharaf sydd gennym ym mhapurau Porth-yr-Aur. Pe digwyddem fod yn sefyll ar y twmpath gerbron Castell Dolbadarn ar drothwy'r ddeunawfed ganrif, gan syllu draw dros Lyn Peris, byddai'r olygfa a welem yn bur wahanol i'r hyn a gawn heddiw. Ni byddai na phonc na thomen rwbel yn unman i amharu ar harddwch yr hen fynydd dim ond llethrau gleision yn esgyn o lannau'r llyn, a choed trwchus ar eu godre. Ond ymlaen â ni heibio i Lan y Bala a dechrau dringo i gyfeiriad yr Allt Ddu a'r Fach Wen. Ar ein ffordd i fyny, dichon y gwelem olion cloddio yma ac acw-ambell dwll digon bas, a thwr o gerrig ar ei fin. Gweithio brig y tir y byddai'r hen drigolion yn y cyfnod cynnar hwn, a hynny'n ddiau yn ysbeidiol iawn, ac yn unig i gyflenwi eu hanghenion syml eu hunain, fel toi neu drwsio'u bythynnod a'u hysguboriau. Tir comin a fuasai ochrau'r Elidir i gyd am ganrifoedd-rhan o hen faenol Dinorwig a ddaethai i feddiant hynafiaid y tirfedd- iannwr presennol tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Ac yma yr oedd gan bob teulu, heblaw ei bwll mawn, ei chwarel fach ei hun hefyd, wedi ei henwi ar ô1 y cloddiwr cyntaf, fel Chwarel Morus Wiliam, neu Chwarel Gruffydd Elis.