Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNO NOHYMRÜ CYF. VI HYDREF 1950 RHIF 3 NODIADAU'R GOLYGYDD AWYRGYLCH Seisnig oedd i'r Eisteddfod yng Nghaerffili eleni, ond fe gafodd y Gymraeg ei lle priodol yng ngweith- rediadau'r Eisteddfod ei hun. Er mai Saesneg a siaredid gan naw o bob deg, beth bynnag, o'r bobl a gyfarfyddech ar heolydd y dref, gwelais ambell arwydd yma ac acw a oedd yn help i gadw dyn rhag digalonni. Gwraig llety mewn un man yn dweud mai Cymraes oedd hi, a'i bod yn deall yr iaith ond na fedrai mo'i siarad (ofn mentro, y mae'n ddiamau), ac er ei bod wedi priodi Sais daliai i fynd i'r capel Cymraeg yn gyson. Gwragedd yn siarad yn y rhes wrth ddisgwyl am y bws, gan ddweud wrth ei gilydd mai Cymry oeddynt, a bod yn ddrwg ganddynt nad oeddynt yn medru'r iaith, ac fe ddylent ddysgu mwy o Gymraeg yn yr ysgolion." Os yw'r mamau yn barod fel hyn i gefnogi gwaith yr athrawon sydd yn ymdrechu mor ddygn gyda'r Gymraeg, y mae peth gobaith eto. Dau bwynt lliwgar yr Eisteddfod. Y castell gwych oedd un, y mwyaf yng Nghymru, yn sefyll ar godiad tir, a baneri yn cwhwfan ar ei uchelfannau, a llif o oleuni trydan yn tywynnu ar ei furiau bob nos. A'r Orsedd oedd y llall. Bydd hon yn dwyn gogoniant lliw i foddhau'r llygad fel y bydd y canu'n bodd- hau'r glust. Bu adeg pan deimlai llawer ohonom ryw gywilydd o'r Orsedd, wedi i G. J. Williams ddadlennu ffugiadau Iolo Mor- ganwg ynglŷn â hi. Ond colled i'r Eisteddfod fyddai bod heb ei phasiantri bellach. Y gwir amdani, nid Gorsedd Iolo Mor- ganwg mohoni erbyn hyn, ond Gorsedd Cynan, creadigaeth newydd. Mi welaf berygl ei gor-wneud, fodd bynnag. Yn hytrach nag ofer-elaboretio ei defodaeth, byddai'n beth da iawn petai'r Archdderwydd newydd yn tynhau'r ddisgyblaeth-cael pob aelod i wisgo gwisg a fydd yn ddigon llac ac yn ddigon llaes i'w ffitio, a chael llawer gwell trefn ar y gorymdeithio. Nid wyf yn awgrymu