Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JOHN ELLIS WILLIAMS Gan ROBERT OWEN UN gwael fûm i erioed am gofio amseroedd a phrydiau. Ar wahân i 1066 a rhyw hanner dwsin o ddyddiadau eraill (yn cynnwys dydd fy mhen blwydd, wrth gwrs), nid wyf yn siwr o ddim. Ond y mae'n rhaid mai tua 1927 y deuthum i wybod gyntaf am John Ellis, Ffestiniog, a hynny trwy'r Rhedegydd, papur wythnosol J. D. Davies, Blaenau Ffestiniog, gŵr a fu'n angel gwarcheidiol dros ami i sbrigyn o fardd a llenor am gyfnod maith. Arferwn anfon rhyw delyneg neu englyn i J.D.D. yn lled gyson, a chwarae teg i'w galon, ni wrthododd gyhoeddi yr un ohonynt, er nad oeddynt, byd a'i gwyr, yn ddim ond gwaith "prentis y flwydd- yn gyntaf". Yn y Rhedegydd hefyd, tua'r un amser, ymddangosai yn gyson farddoniaeth o radd uwch gan chwarelwr ifanc o'r enw John Ellis Williams. Daethai ef tua'r adeg honno o ardal Rhyd Ddu yn Arfon i weithio i Chwarel yr Oakley, a lletya yng Nglan- pwll. Adroddid yn aml am ei gampau yn ennill cadeiriau mewn 'steddfodau yma a thraw am bryddest neu gyfres o delynegion, a darogenid iddo ddyfodol gwych fel bardd. Yswn am gael ei gyfarfod. Ar blatfform stesion Dolwyddelan y gwelais ef wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Diwrnod Eisteddfod y Cymrodyr oedd hi, ac yntau newydd ennill y gadair am gyfansoddi Darn i'w Adrodd ar y testun "Trychineb Dolgarrog". Bryfdir a feirniadai a rhoes iddo ganmoliaeth nodedig iawn. Y darn arobryn hwnnw a roed yn ddarn adrodd i'r prif adroddwyr y flwyddyn ddilynol. Bu'r bardd ifanc a minnau yn sgwrsio â'n gilydd am yn hir i aros y trên y dwthwn hwnnw. Cerddaswn yn ôl ac ymlaen ar hyd yr un platfform ugeiniau o weithiau cyn hynny, ac wedyn yng nghwmni Silyn i aros dyfodiad y trên naw i fynd ag ef i'r Blaenau. Yr oedd gan Silyn ddosbarth WEA yn Nolwyddelan, un o'r rhai cynharaf i gyd. Fe'i cynhelid y pryd hwnnw yn ystafell ffrynt gwesty Elan's Castle. Myfi o ddigon oedd aelod ieuenga'r dos- barth am flynyddoedd. Gwell hyd yn oed na'r dosbarth oedd cael hebrwng yr athro i'r stesion a chario'i fag, a cherdded o un pen i'r llall i'r platfform yn gwrando arno'n llefaru, ac yn dad- orchuddio imi ardderchowgrwydd barddoniaeth R. Williams Parry. Silyn a ddangosodd imi gyntaf ogoniant campus y llinell honno o Awdl yr Haf—"A'i threm yn llewych i'w throed". Yr