Y ferch a wnaeth gwayw dan f'ais, A garaf ac a gerais. Gweniaith brydferth a chwerthin Erioed a fu ar dy fin. Gwae fi, gwn boeni beunydd, Weled erioed liw dy rudd. Y mae cryn gamp ar gwpledi fel hyn, ac ni fynnwn i ddilorni dim ar eu crefft, ond camp a chrefft ydynt a ddaeth i fri yng Nghymru yn ddiweddarach na chyfnod Dafydd ap Gwilym; beirdd y bymthegfed ganrif a ddatblygodd y cwpledi cryno hyn. Y fan i gychwyn wrth geisio gwerthfawrogi cynnyrch awen Dafydd yw y ganrif ddiwaethaf, yn yr ystyr fod raid inni ym- ysgwyd o bob syniad am hanfod a phwrpas barddoniaeth a goleddid yn y ganrif honno. Fe gychwynnodd y Mudiad Rhamantaidd yn Ewrop yn y ddeunawfed ganrif, ond yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y teimlwyd ei effaith ar farddoniaeth yn llawn yng Nghymru. Yr oedd Williams Panty- celyn o dan ddylanwad cynnar y mudiad, ac iddo ef cyfrwng oedd barddoniaeth i fynegi'r teimladau dwys a'r profiadau angerddol a gafodd ef. Cyn belled ag y mae'n bosibl rhannu barddoniaeth yn fynegiant ac yn sylwedd, y mae'n deg dweud mai'r sylwedd, y cynnwys, yr hyn a fynegid oedd yn bwysig i Williams, ac nad .oedd yr iaith ond cyfrwng i gyfleu hwnnw. Yng ngwaith Islwyn fe welir defnyddio barddoniaeth i ddibenion athroniaeth berson- ,ol, ymgais i ddeall ymddangosiadau'r cread ac olrhain perthynas Duw â'r cwbl. Agwedd arall ar yr un amgyffrediad yw'r canu telynegol, gyda'i bwys ar brofiad personol unigol, ond bod hwn yn rhoi pwys hefyd ar geinder ffurf a chyfaddaster iaith. I roi'r peth yn gryno, buwyd yn ystyried fod a wnelo barddoniaeth â syniadau ac â phrofiadau, a'r rheini'n aruchel ac yn ddwys. I Ddafydd ap Gwilym yr oedd a wnelo barddoniaeth yn ar bennig iawn â geiriau ac â gorchestion mydryddol. Parthed ei chynnwys, gallai hwnnw fod yn ystrydebau serch neu'n stori ddoniol. Nid athronydd mo'r bardd, ac nid gweledydd yn cael profiadau dyfnach na'i gyd-ddynion, ond gwr a fu wrthi am flyn- yddoedd yn ennill meistrolaeth ar bopeth y gellid ei wneud â geiriau'r iaith-eu cyplysu ynghyd a'u gwahanu; dysgu hefyd yr amryfal ffyrdd y gellid eu rhoi wrth ei gilydd yn frawddegau,