Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU NODiADAU'R GOLYGYDD CLYWIR sôn y dyddiau hyn am ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi, a chan fy mod yn barnu pob mater fel hwn oddi ar safbwynt democrat digymrodedd, gwell imi frysio i ddweud gair amdano cyn i'r pleidiau gwleidyddol fynd i'r afael arno. Diamau ei bod vn bosibl gwella cyfansoddiad y Tŷ hwn, yn enwedig trwy agor y drws i ferched, ond pwysicach o lawer na diwygio'i gyfansoddiad yw gofalu nad estynnir dim ar ei hawliau, na'i allu i lyffetheirio Tŷ'r Cyffredin. O'm rhan fy hun, mi ddiddymwn i Dŷ'r Arglwyddi yfory nesaf, ond mi wn fod y traddodiad Prydeinig yn barotach i gyf- addasu hen sefydliad at amcanion oes newydd nag i'w ddiddymu. Pa newid bynnag a wneir yng nghyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, ni allwn adael iddo y gallu i ymyrryd â hawl pobl Prydain i'w llywodraethu eu hunain drwy gyfrwng eu cynrychiolwyr ethol- cdig. Dyna'r egwyddor yr ymladdwyd trosti, ac a gadarnhawyd, tros hanner canrif yn ôl bellach, mai "Ewyllys y bobl sydd i fod yn oruchaf". Pa hawliau bynnag a adewir i Dŷ'r Arglwyddi, hawl- iau i gynghori ddylent fod, ac nid hawl i atal deddfwriaeth. Ni wn i am yr un ddadl dros barhau Tý'r Arglwyddi ond ei fod yn werth ei gadw oherwydd ei gysylltiadau hanesyddol, a'i bod yn bosibl i Dŷ'r Cyffredin gyflwyno materion iddo i ym- chwilio iddynt, a'u trafod. Hyd yn oed felly, ni wn am yr un dieswm dros gredu ei fod yn wir angenrheidiol. Dywedir wrth- ym fod arbenigwyr ymhlith aelodau Tŷ'r Arglwyddi, a allai ad- olygu gwaith Tŷ'r Cyffredin, a'i gywiro pan fyddai'n cyfeiliorni. Ond i gyfarwyddó cynrychiolwyr y bobl y mae arbenigwyr da, nid i weithredu yn eu lle, nac i fod mewn safle o awdurdod i'w rhwystro. Ar wahân i'r arbenigwyr lawer sydd yn Nhý'r Cyffredin, gall y Llywodraeth ymgynghori bob amser ag arben- igwyr o'i dewisiad ei hun, heb i'r genhedlaeth o'r blaen fod wedi eu dewis iddi ymlaen llaw, a'u castellu yn Nhŷ'r Arglwyddi.