Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BARDD O FON, PERCY HUGHES (P.H.), 1898-1962 Dafydd Islwyn Hughes, Bargoed Dwy gyfrol ddiddorol yn dangos gweithgarwch beirdd Môn yw Awelon Môn, a gyhoeddwyd yn 1946, ac Awen Môn, a gyhoeddwyd yn 1960. Ynddynt cawn enghreifftiau o weithiau beirdd mwyaf adnabyddus Môn y ganrif hon. Beirdd fel John Eilian, Rolant, W. T. Griffith, Tomi Parri Jones, J.O. (Bodffordd), Percy Hughes (P.H.), a Huw Llewelyn Williams. A'r mwyaf poblogaidd ohonynt oedd P.H. Canodd P.H. gannoedd o gerddi yn ei ddydd. Mewn cyfnod o hanner canrif o farddoni cyfansoddodd lawer o gerddi. Cyfan- soddodd delynegion, pryddestau, sonedau, cerddi coffa, baledi, dychangerddi ac adroddiadau yn nhraddodiad yr hen adroddwyr, a'r hen adroddiadau hir-wyntog fel a geir yn y Morthwyl llyfr o adroddiadau o ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Mae llawer ohonynt yn dra thebyg i strôc bregethwrol a rhyw smartrwydd arwynebol. Ond ar y llaw arall mae rhai o'i gerddi yn sefyll allan, ac y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gerddi eisteddfodol. Mae'n amlwg fod disgyblaeth cystadleuol yn ffrwyno awen P.H. Ynddynt daliodd naws yr hen delyneg ac y maent yn creu mwynhad wrth eu darllen: Y DYFROEDD TAWEL Hiraethus ydyw'r awel A dry uwch mangre'r hedd, A suon Dwyfor dawel Yn lleddf wrth basio'r bedd. Wedi terfysgoedd donnau A stormydd gwaed a thân, Mae wedi bwrw angor Yn hedd ei febyd glan.