Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dafydd Jones o Drefriw a'brynodd yr hen wasg gan Lewis Morrys neu ei frawd, William Morrys, ac mai a wasg hon y bu Difydd Jones, a'i fab, Ismael Dafydd, yn argraffu ar hyd eu hoes. Ymddengys ddarfod i R. Jones, neu ei berthynasau, werthu yr hen wasg i un John Jones, Llanfyllin. Yn lled fuan ar ol ei ddyfodiad i Fangor, dechreuodd Robert Jones gyhoeddi Papyr Newydd dwyieithawg, o'r enw The Figaro in Wales, yr hwn a olygid gan y Parch Isaac Harris, gweinidog ar ddeadell fechan o Anibynwyr oedd wedi myned ar ddisperod o eglwys Dr. Arthur Jones. Gyrfa helbulus a gafodd y Figaro, a bu yn foddion i ddwyn yr argraffydd i drybini fwy nag unwaith, oblegyd yr ymosod- iadau personol isel a bryntion gyhoeddid ar ei ddalennau. Yn y Gwylied- ydd am 1836, t.127, rhoddir hanes Brawdlys Sir Feirionydd, a gynhal- iwyd yn y Bala, Mawrth 12, 1836; ac ymysg pethau ereill ceir a ganlyn Dygwyd cwyn cyfraith hefyd yn erbyn Mr. Robert Jones, Argraffydd, Bangor, am gyhoeddi cabldraeth yn erbyn boneddig o Gaernarfon (Mr. George Johnson), yn y cyhoeddiad a elwir Figaro in Wales. Dedfryd- wyd ef i dalu £ 250 o ddirwy." Yn 1843, cychwynwyd papyr arall gan Lewis Evan Jones, Caernarfon, o'r enw Anti Figaro, dan olygiad Edeyrn ab Nudd, bardd, fel yr ymddengys, oedd ar y pryd ym Mangor, yn cymhwyso ei hun i'r offeiriadaeth. Yr oedd Edeyrn wedi bod yn wrthrych ymosodiadau ffyrnig yn y Figaro, ac amcan sefydliad papur Caernarfon oedd talu yr echwyn adref i'w gyfenw ym Mangor; a hynny a wnaeth gyda llðg. Yr oedd cynwysiad y papurau erbyn hyn mor gableddus, fel y cymerodd gwyr y gyfraith y mater mewn llaw, a rhoddwyd terfyn ar y ddau trwy atafaelu eiddo y cyhoeddwyr (TRAETHODYDD am 1884, t. 184). Daeth ychydig o lyfrau o swyddfa R. Jones ar ol hyn, ond gydag enw ei fab, Robert Griffith Jones, fel argraffydd. Bu Robert Jones farw Rhagfyr 19, 1850, yn 47 mlwydd oed. Argraffwyd y llyfrau canlynol ganddo ym Mangor:- 1834.-Galarnad ar ol William Burnett, Pregethwr gyda y Bedyddwyr yng Nghaergybi, yr'hwn a fu farw yn dra hyderus yn yr Arglwydd, Gorphenaf yr 22, 1834, yn ei 65 mlwyddoed, &c. Gan y Parch. William Morgan, Caergybi. 1838. — Pynciau Athrawiaethol yn y rhai y mae amryw Ganghenau Ysgryth- yrol, y rhai sydd Anghsnrheidiol Anhepgorol i dywys y Meddwl i Gysondeb y Ffydd yn ol y Bibl Sanctaidd. Gan y Parchedig Arthur Jones, Bangor. 1844.—Traethawd arNatur Eglwys, oddiar Matthew xvi. 18, 19; lle y dang- osir gwrthuni Sefydliadau Dynol, a Chysylltiad Crefydd â'r Byd. Gan Owen Thomas, Bethesda. 1849 (R. G. Jones),­Y Gweithiwr Caniadgar. Gan Hugh Hughes (Huw Derfel), Pendinas, Llandegai. WILLIAM SHONE.—Ychydig o hanes W. Shone sydd ar gael ond y mae sicrwydd ei fod yn llyfi werthwr ym Mangor yn y flwyddyn 1837 a thybir ei fod yn y Ue flynyddoedd cyn hynny. Dywed rhai oedd yn blant rai blynyddau yn ddiweddarach na'r adeg a nodwyd yr arferent brynu llyfrau yn Shop Shone pan yn yr ysgol gyda Robin Ddu yn Ebenezer. Dywedir hefyd fod W. Shone yn aelod selog gyda'r Wes- leyaid yn Horeb ar un adeg ac iddo briodi merch Castellior, Sir Fôn. Yn Bank Place, lie y saif swyddfa Nixon & Jarvis yn awr, yr oedd ei fasnachdy. Yn y flwyddyn J 852, fel y bernir, prynodd William Catherall y shop a bu William Shone yn Feistr y Worhhnuse am rai blynyddau ar ol hynny a dywedir iddo fod wedi hynny drachefn yn