Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BEIRDD A BARDDONIAETH GYMREIG Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG. GAN y bwriedir i'r ysgrif hon fod yr olaf o'r gyfres ar y testyn toreithiog hwn, amcenir bod yn fyr a chryno ar y dechreu ymhob amgylchiad, fel y byddo lle tua'r diwedd i ddwyn i sylw enwau cynifer o'n prif-feirdd ymadawedig ag y byddo yn bosibl. Pe buasai ym mryd yr ysgrifennydd fanylu ar Awdlau, Pryddestau, Arwrgerddi, a Chaneuon o bob math a gyfansoddwyd gan feirdd oeddynt yn fyw hyd ddiwedd y ganrif, buasai yn rhaid paratoi cryn nifer o ysgrifau yn rhagor; ond gan y tueddir ef i adael y gwaith hwnnw i ereill, efe a â rhagddo yn awr fel o'r blaen, gan ddechreu gyda L-Y PARCHEDIG DAVID JONES, TREBORTH. Heblaw bod yn bregethwr ardderchog, yr oedd David Jones hefyd yn fardd ardderchog. Ni raid dweyd wrth ddarllenwyr y TRAETHODYDD mai un o deulu enwog Tanycastell, Dolyddelen, ydoedd ef, ac iddo dreulio ei oes i wasanaethu Crist fel gweinidog ymhlith y Methodistiaid. Bu i'w rieni naw o blant, sef pedwar o feibion a phump o fercbed. Ymddyrchafodd tri o'r meibiou i enwogrwydd anghyffredin fel pregeth- wyr, sef John, David, a William. Ar ol cyrhaedd safle dda yn yr enwad, ymfudodd yr olaf i'r Amerig, ac yno y penderfynodd aros i dreulio gweddill ei oes. Ychydig o fanteision addysg a fwynheid yn ardal fynyddig Dolyddelen pan oedd yr enwogion hyn yn fechgyn. Yn ganlynol, meddyliodd ein gwrthrych mai da fuasai iddo fyned am beth amser i ysgol o fri a gedwid yng Ngwrecsam. Profodd y symud- iad hwn o ddirfawr les iddo. Yn fuan ar ol hyn trefnodd Rhagluniaeth iddo gael cartref clyd yng Nghaernarfon, a maes eang i lafurio ynddo. Eisoes efe a ystyrid yn bregethwr o'r radi flaenaf. Yr oedd iddo ymddangosiad tywysogaidd, ynghyda llais o'r fath bereiddiaf. Y mae yr un peth i'w ddweyd am ei frawd galluog o Dalysarn, ond y byddai ef ar amserau yn ymgodi i fwy o arucheledd a grym, fel y tybid. Am dano fel pregethwr, caed deegrifiad mor ragorol gan IsLWYN, fel nas gallaf lai na difynnu ychydig linellau yn y fan hon. Pregethau Teeborth oeddynt emau'r saint, Mwy hynod am dryloewder na maint. Disgleirdeb pur ei ardduil wnelai ddryoh I angel weled ynddo'i wyneb gwych, Llwyr daflal ef ei ddifrifoldeb dwys I'w bregeth, fel y plygem dan ei phwys. Rhy santaidd ydoedd el areithfa ef I greu dlgrífwch coeg,­rhy lawn o'r nef I gymhelliadau o ddaearol ryw Anturio fyth i ddringo'i grisiau gwiw. EI bregeth ryfedd gan brydferthion dawn Addurnid oll â godidawgrwydd llawn, Tywysai ni drwy ryw rodfeydd di-all Dan goed ag anfarwoldeb ar eu dail