Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

well beth ymgais i ryddhau Tyndal, ond y mae yn amheus a fuont ar eu goreu gyda hynny, oherwydd yr oedd eu meddyliau ar y pryd wedi eu cymeryd i fyny mor llwyr gan amgylchiadau cartrefol, fel na chafodd sefyllfa beryglus Tyndal, tu hwnt i'r mor, y sylw a haeddai ganddynt. Ond feallai na buasai yr ymdrechion mwyaf o'u heiddo yn tycio dim tra yr oedd y diwygiwr wedi troseddu mewn modd mor amlwg ddeddfau y wlad yr oedd ynddi gyda golwg ar hereticiaid. Gosodwyd ef ar ei brawf fel heretic, ac er iddo amddiffyn ei hun yn y modd mwyaf galluog profwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i gael ei dagu, ac wedi hynny ei losgi. Rhoddwyd y ddedfryd mewn gweithrediad oddiallan i furiau y castell, dydd Gwener, y 6ed o Hydref, 1536. Fel hyn y bu farw un o'r Merthyron Ardderchocaf a gynyrchodd unrhyw oes a gwlad. Heblaw fod ei ddysgeidiaeth yn fawr, yr oedd efe hefyd o ran purdeb ei gymeriad yn gyfryw nad oes neb o'i elynion wedi meiddio ceisio nodi un blotyn arno. Cafodd Lloegr, yn Tyndal, un o'i chymwynaswyr pennaf, a lle bynnag y darllenir yr Ysgrythyrau Sanctaidd yn yr iaith Saesneg, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth efe er gwella a dyrchafu dynolryw. Er iddo dreulio cyfran mor fawr o'i oes allan o'i wlad, eto ni adawodd neb fwy o argraff ar ei wlad nag ef. Ac er nad ydyw manylion ei fywyd mor wybyddus ag a fuasai yn ddymunol, eto, erys ei waith byth yn amlwg, a'i goffadwriaeth yn wir fendigedig. EDWARD THOMAS. Tregarth. YMWELIAD GIPSY SMITH AG ABERTAWE. PE gofynnid i mi beth ydyw'r digwyddiad mwyaf pwysig sydd wedi cymeryd Ue mewn ystyr grefyddol yn Abertawe yn ystod y pum mlynedd diweddaf, atebwn yn ddiamheuol, Ymweliad Gipsy Smith." Gwn fod llawer o bobl dda yn credu na welwn ni byth mwyach ddiwygiadau mawr megys cynt honant fod cymdeithas wedi newid, a bod yr Arglwydd yn y dyddiau hyn yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Anhawdd iawn ydyw derbyn yr athrawiaeth hon ar 01 gweled effeithiau grymus gweiuidogaeth Gipsy Smith. Cefais y fraint o weled llawer o bethau rhyfedd ynglŷn a'r genhad- aeth hon. Yr oedd paratoadau mawrion wedi eu gwneud cyn i'r Efengylwr ddyfod, llawer o weddïau taer wedi cael eu hoffrymu ac o ganlyniad yr oedd eglwysi y dref mewn naws tyner, ac yu barod i dderbyn bendithion mawr oddiwrth yr ymgais neillduol hon. Dechreuodd Gipsy Smith ei waith trwy anelu ei saethau at y Cristionogion. Yr ydech chwi, bobol grefyddol, yn rhy oer, yn rhy