PRYDDEST GOFFA "GWYNEDDON," (I'R BRYDDEST HON Y DYFARNWYD Y GADAIR YN EISTEDDFOD GWYNEDD, PASO, 1907.) Wrth fedd y gwr hawddgaraf, Myn awen drist ymdroi A'i dagrau a eneinia'i lwch A'i heddwch digyffroi Gwyneddon anwyl huna, O fedd, yn hedd dy gol, A sycha'r Fenai cyn bydd trai Ar ddagrau'i wlad o'i ol. Yr helyg sydd yn wylo, Ar lan y Seiont lwys, Gan blygu i gusanu'r lli, Fel adlun hiraeth dwys, Am un a garai rodio Ffordd hono wrtho'i hun, Fel o dan bwys myfyrdod dwys Ei enaid canaid cun. Llifeiriwch ddagrau hiraeth Os mynwch siarad serch, Pan y mae iaith yn myn'd yn fud Dan bwysau dyrnod erch; Fel cyfaill fe wystlaswn Fy mywyd ar ei air, Er chwilio'r byd o ben i ben, Ffyddlonach un ni chair. Diwydrwydd y wenynen, Haelioni'r ffynon fyw, A serch at rin yr awen, A chainc y delyn wiw, Oedd nodau greddf ei fywyd, Ar hyd ei ddiwyd daith, Ac nid aeth mawredd mwy o'n mysg, Medd llawer llygaid llaith. Rhodd oes o ddefnyddioldeb Ar allor llwydd ei wlad, A gweled Cymru'n codi'i phen Oedd iddo'n wir fwynhad Ei serch at wlad ei dadau Oedd gryf fel ymchwydd ton, A byw gyfaredd iddo oedd Hen draddodiadau hon.