Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATGOFION AM Y PARCH. W. M. LEWIS, TYLLWYD. Ganwyd Mr. Lewis Mai 1839, a bu farw Mai 1917, yn 78 mlwydd oed. Gellir dweyd ar unwaith na bu segur na diffrwyth yn ei ddydd a'i genhedlaeth. Mab ydoedd i'r Parch. Enoch Lewis, Abergwaun, ac yr oedd ganddo feddwl mawr o'i dad. Mwy nag unwaith adroddodd am dano yn myned gyda'r Parch. Thomas Richards i gy- hoeddiad Saboth yng Nghastell newydd Emlyn. Pan ddaeth oedfa'r hwyr aeth Mr. Enoch Lewis i'r oriel i ym- guddio fel na byddai galwad arno i ddechreu y gwasan- aeth. Wedi esgyn i'r pulpud galwodd Mr. Richards Enoch": ond nid oedd ateb. Galwodd y pregethwr yr ail waith mewn llais uwch, Enoch ond dim ateb. Yna hysbyswyd Mr. Richards fod y gwr ieuanc yn eh- tedd yn yr oriel, a dyma'r llais mawr mewn tôn awdur- dodol yn dweyd. Enoch, dewch yma i ddechreu'r cwrdd." Ac felly y bu, ac wedi hynny gwnaeth Mr. Richards ef i bregethu yn gyntaf. Yna ar ol canu cyn dechreu ei bregeth ei hun, cyfeiriodd at y pregethwr ieu- anc a dywedodd wrth y gynulleidfa, Chwi welwch fod y dyn yn gallu dweyd." Nid ydym yn cofio clywed Mr. Lewis yn sôn am ei fam, ond hyn yn unig, sef iddo gael ei enwi fel William Morris, nid ar ol y pregethwr ang- hyffredin o Dyddewi, eithr ar ol perthynas iddo o du ei fam. Cafodd Mr. Lewis ei fagu yn Abergwaun yn amser blynyddoedd olaf Mr. Richards. Yr oedd yn ymyl i^eg oed pan ftt farw y pregethwr mawr a nerthol hwnnw. Yn y flwyddyn 1852, pan y cynhelid y Gymdeithasfa yn y Dinas, oherwydd absenoldeb y gwr oedd i draddodi y Cyngor yn yr Ordeiniad, gosodwyd Mr. Richards i gyf- lawni y rhan hon o'r gwasanaeth, ac anfonodd y llanc ieuanc W. M. Lewis i lawr i Abergwaun i gyrchu y Cyngor oedd ganddo wedi ei ysgrifennu ac yn debyg wedi ei draddodi ar achlysur .blaenorol, a dygodd yr ysgrif yn ol yn fuan mewn llawn pryd i'r gwasanaeth ordeinio. Yr oedd Mr. Lewis yn gweled Mr. Richards yn aml, ac ar delerau siarad hapus â'r gwron. Un diwrnod gofynnodd Mr. Lewis i'r hynafgwr parchedig. Sut vr ydych heddyw, Mr. Richards?" Yr ateb ydoedd. Dyma 11e