Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

llawer hen syniad anghywir. Er enghraifft, dangosir yn eglur nad "gwisg Gymreig yw "het uohel, pais a betgwn, ffedog a siôl (td. 44). Gwyddom oll am y siarad poblogaidd am wisg genedlaethol Cymru. Ond nid oes y fath beth ac ni bu erioed" (td. 39). Ffrwyth Pan-Geltiaeth yr Arglwyddes Llanofer, ynrhlith petbau eraill, yw'r syniad cyfeiliornus hwn, meddir yma. Dyma sylw diddorol arall "Yr oedd gennym [ym Môn] ddwy safon i fesyr ŷd yn oes Elisabeth. Dibynnai'r naill ar farchnad Biwmares a'r llall ar farchnad Oaernarfon" (td. 48). Dywedir mai'r gist yw sylfaen y datblygiad helaethaf mewn dodrefn (td. 30). A sonnir droeon am y gwa- haniaeth sydd rhwng De Cymru a Gogledd Cymru mewn pethau fel ystyr "stôl" a ffurf y "dreser." Darllener yn frysiog y Mynegai llawn iawn sydd ar ddiwedd y gyfrol, a gwelir yr amrywiaeth pynciau a mannau y cyfeirir atynt. Tueddir ni i godi ambell bwynt o feirniadaeth. A oedd angen y bennod olaf, ar "Y Dyfodol"? Da oedd cael brawddegau olaf y bennod, lle y sonnir am adeg pan "ad-drefnir y boblogaeth ar sail unedau diwydiannol bychain "Yn yr ad-drefniant, gellir dysgu llawer gan ddulliau bywyd yr oesoedd a fu. I wybod hynny rhaid gwybod hanes ein diwylliant gynt. Ysgrifennwyd y gyfrol hon fel cyfraniad bychan tuag at y broblem (td. 128). Ond y mae tipyn o'r pregethwr i'w weled yma a thraw drwy'r bennod; a dichon nad yw hyn yn bollol briodol mewn cyfrol fel hon. Ffordd yr holl Gymry o fyw—dyna'n fyr ystyr diwylliant gwerin i ni (td. 2). Rhaid i'r efrydydd diwylliant gwerin, gan hynny, ystyried holl weithreddadau dyn Dull arferol efrydwyr ein gwyddòr yw trafod am- lygiadau materol diwylliant a hynny a wneir gan mwyaf yn y penodau a ganlyn" (td. 9). Gwelir yma. safbwynt yr awdur. Gwelir hefyd yn y frawddeg olaf yna un peth arall, nodwedd y ceir llu o enghreifftiau ohoni yn y llyfr, diffyg atalnodi. Dyma siampl arall o hyn Amodir tai fel llawer o bethau eraill, gan eu hamgylchedd a dibynnai eu defnyddiau (td. 10), ile y dylai fod coma ar ôl "tai ac ar ôl "hamgylchedd Y mae dwsinau o frawddegau lle y disgwyliai'r darllenydd goma o flaen ond a "canys ac "a". Sylwasom ar un bai sy'n rhy gyffredin heddiw: "Os mai'r ysgolheigion a fradychodd yr daith (td. 127), He nid oes angen "mai o gwbl. Gellid gwella mewn rhai cyfeiriadau eraill, megis Pa beth yntau ? (td. I2), "pan darawo" (td. 2I), "fel y gellir (td. 88, lle dylai fod "fel y galler"), "dal gwningod" (td. 120), "bu'r melin ddwfr" (td. 121, er bod "y felin" linell o flaen hyn). Ceir "Seehbohm" ar dud. 14, ond "Seebohm," yn gywir ni gredwn, yn Y Mynegai. Y mae'n hawdd disgwyl gormod mewn cyfrol fel hon; rhagoroldeb ei chynnwys a bair inni wneuthur hynny. Er enghraifft, tybed na ddylesid hoddi rhagor na ddgon lanw un tudalen i drin Crefydd ? Cyfyd aml gwestiwn yn ein meddwi wrth gofio am hen gapelau syml; un yw hwnnw,