Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Athro Phillips fel Meddyg Meddwl. Chwith yw clywed am farwolaeth yr Athro David Phillips. Braint inni fu cael arweinydd o'i welediad ef mewn dyddiau dyrys. Dolen ydoedd rhwng y byd-a-fu a'r byd-a-ddaw, yn yr ystyr dymhorol a thragwyddol. Nid anghofiaf ei bregethau-bore- Satìwrn yng nghapel y Coleg tra deil fy nghof heb edwino. Cyf- arfûm yno yn y tawelwch â phrydferthwch rhyfedd y gwirionedd yn argyhoeddi'r enaid o gyfiawnder. I bererin gwan ei ffydd a'i ddeall o bethau mawr crefydd a byw, bu'r profiadau hyn oll yn ddigon i mi wybod fod rhywbeth mwy mewn "Duw" a dyn nag a welodd Freud yn The Future of an Illusion, a chefais nerth i ddal i astudio crefydd a gwerthoedd yng nghanol peiriau seiccl- eg arbrofiadol a phositifyddol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. A minnau wedi mynd drwy psychoanalysis o dan Dr. Phillips, cefais gyfle da i sylwi arno wrth ei waith. Nid yn unig y mae'r un sydd yn mynd o dan y driniaeth yn ei ddinoethi ei hun; y mae'r dinoethwr hefyd yn ymddinoethi. Erbyn hyn, yr wyf wedi gweled rhai o feddygon meddwl mwya'r byd yn eu cynefin, ond profiad bythgofiadwy i mi oedd yr oedfa ddau bedair gwaith yn yr wythnos hefo'r Athro Phillips drwy Flwyddyn y Bala." Dim ond ef a minnau a'm gweithredoedd. Yr emyn a gyfyd i'm meddwl 'rwan am ryw reswm-rhe-swm da! -yw: Chwilia, f'enaid, gyrrau 'nghalon, Chwilia'i llwybrau maith o'r bron, Chwilia bob ystafell ddirgel Sydd o fewn i gonglau hon; Myn i maes bob peth cas Sydd yn atal nefol ras. A sôn am seiadau a gaed yn yr oedfa ddau Aeth yr oedfa ddau yn oedfa dri a chyflawnwyd yr Ysgrythur: "lle bynnag y byddo dau wedi ymgynnull yn fy enw i, yno y byddaf yn y canol." Temtasiwn i mi fyddai manylu ar Dr. Phillips fel seicdreidd- iwr (psycholanalayst) ond os caf fyw, mi ddaw rhyw gyfle i wneud hynny eto efallai. Digon yw dywedyd i'w graffter a'i gatholig-