Symud i'r prif gynnwys

a synnech." Gallai hefyd droi ei law at bob gwaith coed a cherrig. Adeiladodd dai a chapelau, a chydweithiai'n aml â'r crefftwyr ar bob rhan ohonynt. Yr oedd yn un ar hugain oed pan aeth yn aelod eglwysig yn y Dyffryn. Dewiswyd ef yn flaenor yn fuan iawn, a dechreuodd esbonio'r Ysgrythurau yn y Cyfarfodydd Gweddïo ar nos Suliau; gwnaeth hynny mewn iaith goeth, eglur, ac mewn modd mor fedrus ac effeithiol fel y cymhellwyd ef gan arweinwyr yr Achos i ddechrau pregethu, ac yntau yn naw ar hugain oed. Ar ôl priodi yn 1822 Ann Griffith, Abermaw, bu'r ddau yn cadw siop yn y Lluesty, Dyffryn Ardudwy, a dychwelyd wedyn i'r Fael- dref. Daeth eu merch ieuangaf Jennette yn briod i'r Parch. Edward Morgan, un o'r pregethwyr mwyaf oll a fagodd ein cenedl. Yn 1833, pan oedd Richard Humphreys yn dair a deu- gain oed, ordeiniwyd ef yn y Gymdeithasfa a gyfarfu yn y Bala. Ymhen wyth mlynedd wedyn, 1841, yr oedd ef yn annerch mewn Cyfarfod Ordeinio yn y Bala ar bwnc a oedd yn agos iawn at ei galon: Dyletswydd yr eglwys tuag at ei gweinidog." Yn y Gymdeithasfa yng Nghaernarfon, 1851, ef a draddododd y Cyngor; ym Machynlleth, 1853, ef a roes yr araith ar Natur Eglwys; ym Mangor, 1855, anerchodd ar yr un pwnc ag a oedd ganddo yn y Bala, 1841. Ar ôl marw Richard Jones, Y Wern, Llanfrothen (1772 — 1833), daeth Richard Humphreys yn arweinydd yn ei Gyfarfod Misol. Nid deddfwr na diwygiwr ydoedd ef, yn bennaf, eithr barnwr a dyddiwr tawel, doeth, a chanddo ddawn arbennig i setlo cwerylon eglwysig. Bu farw ei briod yn 1852; yn 1858 ymbriododd â Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal, ac aeth i fyw i'r ardal honno. Yno y bu farw, Chwefror 15, 1863, yn ddeuddeg a thrigain oed. Bu'r angladd yn y Dyffryn ar ôl cychwyn o Bennal am chwech o'r gloch y bore i deithio am dair milltir ar ddeg ar hugain i'r Dyffryn drwy Gorris, Dolgellau ac Abermaw, yng nghanol arwyddion amlwg a chyffredinol o barch diffuant a dwfn ar hyd y daith i wr mawr a thywysog yn Israel. Yn ei Gartref a'i Gymdogaeth. Y mae darlun da odiaeth ohono ar ddechrau'r cofiant, a hawdd gweld oddi wrtho ei fod yn wr nodedig o hardd yr olwg, yn