Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

dyma ni wedi gadael y dref ac yn cychwyn ar ein taith i fyny'r gelltydd. Ar y dde dyma gartref Syr William Preece, y gwr a wnaeth ymchwiliadau sylfaenol ym myd trydan ac a wnaeth gyfraniadau gorchestol yn nyddiau cynnar y Radio. Ychydig ymhellach ymlaen dyma ni ym mhentref Caeathro ac ar fin y ffordd mae carreg fedd William Owen, Prysgol, a nodau cyntaf ei dôn Bryn Calfaria wedi eu cerfio arni. Dipyn ymhellach ar yr ochr chwith i'r ffordd, dacw Prysgol ei hun, y ffarm a fu'n gartref i'r cyfansoddwr am flynyddoedd lawer. Ym mynwent capel Caeathro hefyd y mae bedd cerddor enwocach, Ieuan Gwyllt. Ymlaen â ni dros Allt Pen Cefn, ac ar y chwith eto fe welwn Hafod y Rhug, cartref Evan Dafydd (un o gynghorwvr cyntaf y Methodistiaid yn y Sir) lle y croesawyd Howell Harris lawer gwaith ar ei deithiau i'r ardaloedd hyn. Dilynwn y ffordd fawr ychydig eto ac yna fe welwn ar y dde ar lethrau Allt Coed Mawr y ffermdy, Gwredog Uchaf; dyma gartref John Evans, y dyn ifanc a wnaeth y daith anturus i Ganolbarth America i chwilio am yr Indiaid Cochion Cymreig. Tarddodd y syniad ym meddwl ffrwythlon Iolo Morganwg, ond aros gartref wnaeth ef gan adael John Evans i fentro ei daith unig a pheryglus ar ei ben ei hun. Ni chafodd ddychwelyd i'w ardal enedigol, a bu farw cyn cyrraedd deg ar hugain oed ar ôl llwyddo i arloesi a mapio rhan eang o'r Unol Daleithiau. Dyma ni yn awr wedi cyrraedd pentref y Waun, ac yma y mae cwmwl mawr o dystion" yn ein haros. Ni chaf ond bron grybwyll eu henwau. Dafydd Ddu Eryri, bardd ac athro beirdd a hynafiaethydd mae ei gartref, Penybont, yn sefyll 0 hyd wrth lan Gwyrfai; ac y mae astudiaethau diweddar yn rhoi lle pwysig iawn iddo yn nhwf barddoniaeth ei gyfnod. Owain Gwyrfai y cowper, yr hynafiaethydd a'r bardd o Tý Ucha'r Ffordd: safai ei dy yr ochr isaf i'r ffordd fawr ond yr ochr uchaf i'r hen ffordd Rufeinig a redai ar waelod y dyffryn. Ioan Arfon o'r Fronllwyd-bardd a llenor a siopwr oedd ef. Eryr Eryri, chwarelwr diwylliedig ac arweinydd y Côr Mawr; bu fy nhad yn aelod o'r côr enwog hwnnw a mynych y soniai wrthym am orchestion yr arweinydd a buddugoliaethau'r Côr. Dros ddeu- gain mlynedd yn ôl yr oedd yno nifer o feirdd yn y pentref- Berw, Gwyrfai ac Eilian, gyda R. R. Morris yn ymyl ym Metws