Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ei gynllun, wrth gwrs, oedd manteisio ar lafur esboniadol Poole, Scott, Guyse, Henry, Doddridge, Gill, etc., a rhoi'r defnyddiau trwy ei felin ac yn ei ffwrn ei hun. Ac y mae'n rhaid cydnabod iddo lwyddo y tu hwnt i bob disgwyliad. Daeth "Esboniad yâms Huws" yn boblogaidd mewn oes pan oedd yr Ysgol Sul mewn bri, a'r werin Gymreig yn ymddiddori mewn pynciau Beiblaidd ac athrawiaethol. Yr oedd arddull James Hughes yn ddarllenadwy, ei chwaeth wrth ddewis a dethol yn hapus, a'i synnwyr cyffredin wrth fesur a phwyso a barnu yn ddi-feth. Daeth y rhan gyntaf allan yn 1829, a chwpla- wyd rhan olaf y Testament Newydd yn 1835. Aed ymlaen wedyn â'r Hen Destament, ac erbyn y flwyddyn 1844 fe gyrhaeddodd mor bell â Llyfr Jeremeia. Lluddiwyd yr esboniwr gan farwolaeth, a'i waith yn anorffen. Bernir mai Roger Edwards o'r Wyddgrug a orffennodd y gwaith, ond mewn ysgrif yn Y Drysorfa yn 1932 fe amheuodd y diweddar Ddr. D. E. Jenkins hynny. Ceisiodd brofi mai'r gwr a orffennodd yr esboniad oedd John Jones, Castle Street, Lerpwl, eithr ar ôl darllen ysgrif Mr. Gwilym T. Jones yn Y Drysorfa 1942 nid yw dyn mor siwr â hynny fod Dr. Jenkins wedi profi'i bwnc. Cafodd James Hughes amser prysur a llafurus wrth baratoi'r esboniad, a daw hynny i'r golwg yn ei lythyrau at ei gyfeillion. "Helbulus iawn y bu arnaf er ys rhai misoedd", meddai yn 1831. "Chwi a wyddoch, mae'n debyg erbyn hyn, fod gennyf ryw law yn y gorchwyl sydd yn myned ymlaen gan y Llwydiaid yn y Wyddgrug. Bûm wrth hwnnw onid wyf bron yn ddall: bûm yn ysgrifennu am lawer o wythnosau â'r llygad aswy wedi ei rwymo i fyny yn wastadol, ac nis medrai holl ddyfroedd ac elïau Llundain wneuthur dim lles iddo". Eto, yn 1836 "Yr ydwyf weithian er yn agos i saith mlynedd, debygaf, yn caethiwo fy hun mewn ystafell fechan gau- edig, gyda'r gorchwyl hirfaith, poenus, eto pleserus, o ddethol, cyfieithu, ac ysgrifennu, fel y gwyddoch, ar yr Ysgrythurau. Er distadled yw'r gwaith hwnnw, wedi?r cwbl, mae wedi agos fy andwyo i mewn corff a meddwl; fel nad wyf yn addas braidd i ddim arall". Teimlai nad oedd ei frodyr yn gwerthfawrogi'r llafur ynglŷn â'r esboniad. "Beth yw eich meddwl amdano"? — felly yr hola gyfaill yn 1841. "Mae pawb, yn enwedig pregethwyr, yn ochelgar iawn. Nid ynganant air wrthyf fi yn ei gylch; er y byddai braidd yn well gennyf eu clywed yn ei regi, na bod yn hollol ddistaw yn ei gylch".