Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BU FARW Enid Wyn yn dawel yn ei chwsg wrth fy ochr mewn awyren uwchben Bangkok, ar ein ffordd yn ôl i Gymru o Awstralia, ar y pymthegfed o Fedi, 1967. Ond ni fedraf feddwl am funud fod enaid mor gyfoethog ac ysbryd mor addfwyn ag eiddo Enid byth yn marw. Do, fe giliodd o'm golwg, ond ni wnaeth ond camu dros y ffin a chroesi'r gorwel­a dychwelyd at yr Hwn a'i rhoes. Fel y dywedodd William Penn bron dair canrif yn ôl: "Nid yw angau namyn symud ar draws y Byd, fel y mae Cyfeillion yn croesi'r môr; parhânt i fyw y naill yn y llall. Oblegid y mae'n rhaid i'r rhai sydd a'u cariad a'u bywyd yn yr Holl Bresennol fod gyda ni'n wastadol." Mae'r ysgrif IN MEMORIAM yma yn arwydd o'm cariad tuag at f'anwylyd, fy niolchgarwch amdani a'm ffydd ddi- ysgog-er gwaethaf hiraeth dirdynnol­yn y delfrydau y safodd mor gadarn drostynt ar hyd ei hoes. Oblegid fel yr ysgrifennodd J. W. Rowntree: "Mae cariad yn pontio marwolaeth. Cymdeithion ydym i'r rhai a aeth o'n blaen; er i angau ein gwahanu, bydd eu gwaith, eu goddefgarwch a'u cariad yn eiddo i ni, ac fe gawn ninnau anturio ymlaen yn hyderus ac yn ysbryd ein cydymaith cadarn o Galilea, a oedd yn gynefin â dolur ac a adnabu gysgodion Gethsemane, i deg ymdrech y ffydd." Anodd meddwl am "fam a gwraig t� gyffredin," oherwydd fel yna y byddafn sôn amdani ei hun, a wnaeth gymaint o waith sylweddol mewn cynifer o gylchoedd. Ni fedrai wrthod cymwynas ac ni wyddai ystyr y gair segurdod; ac y mae'n ddiamau gennyf mai ei dymuniad fyddai cael ymryddhau ar ganol ei holl weith- garwch yn hytrach na dihoeni mewn cyflwr o nychdod maith a musgrellni andwyol. Er y gellid tybio'n hyderus cyn hyn fod iddi flynyddoedd lawer o waith yn ei haros, eto wrth edrych yn ôl mae'n amlwg i'w bywyd gyrraedd rhyw gyfanrwydd rhyfeddol a chyflawn- der gorffenedig. Daw geiriau Caroline E. Stephen i'm cof: "Y mae bywydau rhai mor grwn a choronog fel na wna marwolaeth ENID WYN. TEYRNGED SERCH Ond ni dderfydd ffydd os ffoes Grawnwin a goreu einioes; Mi gofiaf am a gafwyd, can's erys Ei swyn yn felys yn nhân fy aelwyd. R.W.P.