Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ADOLYGIADAU R. T. Jenkins, Yng Nghysgod Trefeca. Ysgrifau ar hanes crefydd a chym- deithas yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif (Caernarfon, 1968). 20/- CYNHWYSIR yn y gyfrol hon un-ar-ddeg o brif ysgrifau'r Athro-Emeritus R. T. Jenkins ar hanes crefydd a chymdeithas yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Mr. Alun Llywelyn-Williams, Cyfarwyddwr yr Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, a awgrymodd gyhoeddi'r detholiad ae ef hefyd a fu'n gyfrifol am wneud y detholiad, am ei olygu a gwneud mynegai iddo. Fel y gwyddys, y mae Mr. Llywelyn-Williams yn hen ddisgybl i'r Dr. R. T. Jenkins, yn ddisgybl ysgol a barhaodd yn ddisgybl ar ôl gadael ysgol, fel y dengys ei waith ar y gyfrol hon ac fel y dengys ei gyfrol ddiwedd- araf ef ei hun, Nes na'r Hanesydd?, a hyfryd yw cydnabod y gymwynas hon a wnaeth fel disgybl i\v hen athro sydd bellach ymhell dros oedran yr addewid, ie, a'r gymwynas a wnaeth â phob ysgolhaig sydd yn ymddiddori yn hanes Cymru ac yn hanes Methodistiaeth. Nid gwaith bychan oedd llunio'r mynegai sy'n llenwi chwe thudalen, ond yr oedd yn waith amhris- iadwy o werthfawr. Fel yr awgrymwyd, mae'r traethodau sydd yn y gyfrol wedi ymddangos o'r blaen, rhai ohonynt ar dudalennau'r TRAETHODYDD, ond y mae'n dda eu cael gyda'i gilydd fel hyn er mwyn cael golwg eang ar ffrwyth ymchwil a myfyrdod y Dr. R. T. Jenkins ar y ganrif y mae'n un, os nad y pennaf, o'n hawdurdodau arni. Er fy mod yn ymddiddori yn y maes, rhyfyg ar fy rhan i fyddai canmol gwaith yr Athro, ond y mae'n werth nodi, efallai, fod ei waith fel ymchwiliwr ffeithiau yn cael mwy o le yn y traethodau hyn, ond odid, nag a gafodd yn ei lyfr Cymrur Ddeunawfed Ganrif, er nad yw ei waith fel hanesydd sy'n ymddiddori ym mherthynas ffeithiau â'i gilydd, yn natblygiad syniadau ac yn yr hyn sy'n symbylu pobl i ymddwyn fel y gwnânt, yn cael ei wthio i gongl chwaith. Dyma'r cynnwys: Yr Annibynwyr Cymreig a Hywel Harris; Methodist- iaeth ym Mhapurau Thomas Morgan, Henllan; Bryste a Threfeca; Rhai o Gymdogion Joshua Thomas; Dyddiau Methodistaidd Francis Pugh; Hywel Harris yn Llundain; Llythyrau o'r Ffrynt; Rhai o Deulu Mary Shelley; Etifeddion Harrisiaid Trefeca; Diarddeliad Peter Williams; John Hughes, Aberhonddu; Mynegai i'r Personau. Er nad hi yw'r ysgrif fwyaf trymlwythog o ffeithiau, na'r fwyaf toreithiog o ffrwyth ymchwil chwaiih, yr ysgrif a roes fwyaf o bleser i mi oedd 'Diarddeliad Peter Williams.' Efallai mai yn hon y mae dawn arbennig y: awdur i esbonio pam y mae pobl yn gweithredu fel y gwnânt yn cael ei harddangos ar ei gorau. Yn sicr, y mae hi'n rhoi i ni'r nesaf peth a gawn ni byth at y profiad o fod yn bresennol yn Sasiwn Llandeilo Fawr yn 1791, ac y mae'n dadlennu isffrydiau nad oedd ambell un o'r rhai a oedd yn bresennol yn ymwybodol ohonynt. Gellir dweud am yr Athro-Emeritus R. T. Jenkins yr hyn a ddywedodd Gilbert Murray am Edwyn R. Bevan: 'Bevan was an imaginative historian, but his imagination was eminently of the kind that seeks to understand- which is difficult; not to invent-which is easy.' J. E. Caerwyn Wojliams