Symud i'r prif gynnwys

rai, gan addo, fodd bynnag, y byddai'n ymgynghori ymhellach â'r Aelodau Cymreig. Ym mis Chwefror 1960 mewn dadl ar gynigion i ddiwygio'r Drefn Weithredu, cyhoeddodd Butler, wedi ymgynghori â Henry Brooke, y Gweinidog dros Faterion Cymru ar y pryd, fwriad y Llywodraeth i sefydlu Uwch Bwyllgor Cymreig. Ni allaf yma fanylu ar hanes y Pwyllgor hwn ar ôl hynny. Er amser ei greu, cafwyd dadleuon ar holl gwmpas Materion Cymreig; cyfyd rhai pynciau eu pennau bob blwyddyn, megis diwydiant, gwaith a thai, ac ni thrafodwyd rhai eraill megis Radio a Theledu a'r Celfyddydau yng Nghymru ond unwaith. Fe'i cafwyd, gan y rhan fwyaf o'r Aelodau Cymreig, fel fforwm, yn ddefnyddiol a bu hefyd yn fodd i orfodi Gweinidogion y Goron i ddod i'r Tŷ i roi cyfrif am waith a dyletswyddau eu hadrannau yng Nghymru. Ond y mae'n rhaid i mi, wrth gloi, droi unwaith eto at sefydlu'r Swyddfa Gymreig ym 1964, oherwydd dyma, yn ddiamau, oedd y digwyddiad gwleidyddol mwyaf arwyddocaol a fu yng Nghymru er 1536. Yn nwylo James Griffiths, dewis hynod o gymwys, ynghyd â Goronwy Roberts a Harold Finch, y rhoddwyd y dasg o greu Adran Wladol newydd yn wyneb problemau megis prinder staff a chryn wrthwynebiad o du rhai carfanau. Disgrifiais eisoes yr ymrwymiad etholiadol ac yr oedd, fel y gellid disgwyl, rywfaint o bwysau i weithredu'r cynllun yn ei grynswth ar unwaith. Anodd oedd cyflawni'r ymrwymiad hwn yn ddisymwth a dechreuodd yr Adran newydd ar ei hynt â chyfrifoldeb gweithredol dros Lywodraeth Leol, yr amgylchedd, trefi newydd, cynllunio gwlad a thref, tai a ffyrdd a chyfrifoldeb cyffredinol dros Gynllunio Economi Cymru. Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd oedd goruchwylio gweithgareddau adrannau eraill yng Nhymru. Golygai hyn y dylent ymgynghori ag ef ynghylch eu polisïau a'u penodiadau ac yn ogystal, wrth gwrs, yr oedd yn aelod o'r Cabinet, ffactor holl bwysig, ac eisteddai ef neu ei Is-Weinidogion ar bwyllgorau'r Cabinet. Bu'n rhaid i weithgareddau'r Senedd eu haddasu eu hunain ar unwaith i gynnwys yr Adran newydd. Neilltuwyd bellach amser i holi Cwestiynau ar Gymru a siaradai Gweinidogion Cymreig mewn Dadleuon ar Gymru a'r Uwch Bwyllgor Cymreig. Cafwyd Amcangyfrifon Cymreig hefyd ar gyfer swyddogaethau gweithredol yr Adran newydd. Yn raddol, enillwyd pwerau ychwanegol, wedi brwydro dygn. Ni fydd Adrannau San Steffan yn gollwng gafael ar y gronyn lleiaf o awdurdod heb godi llais. Tua diwedd fy nhymor fel Ysgrifennydd Gwladol bu'n frwydr faith rhyngof a'r Weinyddiaeth Amaeth i drosglwyddo'r materion hynny a oedd yn ymwneud â Chymru i'm Swyddfa i. Yn ystod y cyfnod hwn deuthum innau yn Weinidog dros Amaeth a phan ddaeth Mr. George Thomas, fy olynydd, ataf yn fuan iawn wedyn ar yr un perwyl, heb oedi dim rhoddais sêl fy mendith ar y cynllun. Felly, yr ehangodd y Swyddfa hyd oni ddaeth yn un o'r mwyaf yn y wlad. Sesiwn cwta oedd fy Sesiwn olaf yn Nhy'r Cyffredin yn ymestyn o Dachwedd laf, 1978, hyd Ebrill 4ydd, 1979, ond yn ystod y cyfnod byr hwnnw gofynnwyd 350 o Gwestiynau, yn llafar ac yn ysgrifenedig, i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru. Nid dyma'r adeg briodol i ddelio â Chomisiwn Crowther/Kilbrandon a'i