Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Pan ddadleuodd John Morris-Jones, yn gynnar y ganrif hon, am yr enw Ffordd Ddeiniol ym Mangor, yr oedd ei reddf yn gweithio'n gywir a gallai egluro sut a pham. Ond cynghorydd-tre anwybodus a gafodd ei ffordd, a'i henwi-hi'n Ffordd Deiniol. Daliodd John Morris-Jones mai'r enw ar lafar gwerinwyr Bangor, er hynny, fyddai Ffordd Ddeiniol. Gwaetha'r modd yr enw sydd ar lafar cyffredin bellach yw Deiniol Road. Fodd bynnag, yr hyn y carwn i ei nodi yw mai'r hyn y byddai pawb yn ei ddweud, pan oeddwn i'n ifanc yng Nghaernarfon gynt, oedd Lôn Fethal a Stryd Bangor. Erbyn hyn y mae arwyddion dwyieithog yng Nghaernarfon yn lle'r rhai Saesneg a oedd yno pan oeddwn i'n fachgen. Ond Ffordd Bethel a Stryd Bangor sydd i'w weld aryr arwyddion newydd. Ni wn beth sy'n cael ei ddweud erbyn hyn, ond mae'n ffaith drist fod yr iaith Gymraeg yn colli tir yn gyflym ym mhob ffordd, fel mai go brin fod llawer o ôl y dull cywir o ddefnyddio'r genidol yn Gymraeg bellach. Eto i gyd, oni ddylid dysgu'r hyn a oedd o fewn cof dyn canol oed yn rhan o reddf ieithyddol y Cymro cyffredin? A ydyw chwarter canrif o ddirywiad cyflym ar yr iaith i fod yn esgus dros ddileu arfer pedair canrif ar ddeg? Rhof enghraifft arall o golli greddf ieithyddol. Rhai blynyddoedd yn ôl gofynnwyd imi am gyngor ynglŷn â rhaglen deledu arfaethedig o'r enw Barddota. Y peth cyntaf a ddywedais oedd bod yr enw yn ynfyd a chwbl annerbyniol. Sylw Gwyn Erfyl ar hyn oedd ei bod yn rhy hwyr i newid yr enw, ac wrth gyflwyno'r rhaglen fe fynegodd gryn bryder ynglŷn â'i henw. Sylw dilynol O. M. Lloyd oedd nad oedd dim gwahaniaeth am feirniadaeth academig, ei fod efyn hoffi'r enw. Yn awr y mae'n fater o bwys fod Cymry diwylliedig yn colli eu greddf ieithyddol. Rhan bwysig o brosesau iaith yw ffurfio geiriau newydd, ac fe genhedlir geiriau newydd yn ôl rheolau: hynny yw, y mae greddf yn gweithredu mewn dulliau y gellir eu dadansoddi a'u ffurfio'n 'rheolau'. I Gymro, sy'n iawn ymglywed â theithi ei iaith, y mae modd ychwanegu'r terfyniad -(h)a at air gan gyflwyno ystyr arbennig. Felly y cafwyd pysgota o pysgod-ha, moelystota o moel-ystod-ha, diota o diod-ha, cardpta o cardod-ha. Camffurfiwyd yn ddiweddar y gair merlota am 'pony-trekking' nid oes mo'r ystyr iawn i'r terfyniad -(h)a yn y gair hwn; ond o leiaf y mae'r fath air â merlod. Ond beth yw barddota? Y mae ffurfio gair fel merlota, ac yn enwedig barddota, yn dangos fel y gwanychwyd ein hymwybyddiaeth â theithi'r iaith, yn dangos fel yr anrymuswyd ein greddf ieithyddol. Nid yw'r gair barddod yn bod, mwy na'r gair iachawd! A minnau'n sôn am y terfyniad -(h)a ni waeth imi grybwyll mai merwindod i'm clust gynt, adeg helynt yr hipiaid yn Nyfed, oedd clywed drosodd a throsodd ar y newyddion teledu gamddefnyddio'r gair gwersylla: gair i'w gysylltu ag eisteddfota a lletya ydyw gwersylla, a gwersyllu ydyw'r gair am 'campio'. in o \a iQ8dWnphvlch bathu