Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

amlwg Sir Fynwy. Aeth cyfran uchel o fyfyrwyr Athrofa'r Fenni i'r weinidogaeth Saesneg, nifer ohonynt o'r ardal ddiwydiannol Gymraeg. Un enghraifft drawiadol yw'r Parch. D. Rhys Stephen (Gwyddonwyson), llenor Cymraeg.32 Ac os oedd yna gwynion am Seisnigrwydd yr Eglwys Wladol yn y cyfnod, nid oedd yr Anghydffurfwyr heb eu beirniaid chwaith. Yn ystod gweinidogaeth y Parch. Ebenezer Jones gyda'r Annibynwyr ym Mlaenafon (1820-3) 'roedd y Cymry uniaith yn cwynfan fod gormod o Saesneg yn cael ei arfer yn y gwasanaeth.33 Gellir nodi hefyd sefyllfa debyg ymhlith Bedyddwyr Pontrhydyryn yn y 1840au oherwydd dylanwad teulu di-Gymraeg Charles Conway.34 Nid oedd y wedd hon ar Anghydffurfiaeth yn dod i'r amlwg oherwydd ymguddiai o dan y syniadaeth arbennig honno a gredai ei fod yn bosib cadw'r Gymraeg drwy ei neilltuo i fyd crefydd. Wrth geisio moesoli ac addysgu cymdeithas gymysg ei hiaith a hwythau'n credu yn rhinweddau achubol y Gymraeg, wynebai Anghydffurfwyr ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddilema. Ar un llaw, credent mai drwy gynnal y Gymraeg y gellid amddiffyn y Cymry rhag llygredd y byd mawr Saesneg. Aethpwyd ati i brofi purdeb y Gymraeg, tra oedd y Saesneg, yng ngeiriau Thomas Stephens, Merthyr Tudful, 'yn fratiaith barbaraidd'.35 Dadlen- nwyd yn gyson fod colli'r Gymraeg yn mynd law-yn-llaw â dirywiad moesol. Look for a moment at those districts where the Welsh language has been supplanted by the English tongue, the inhabitants have absolutely de- generated in body and mind and religion is but a shadow of religion. meddai'r Dr. E. P. Jones mewn cynhadledd i delynorion yn Llanofer yn 1869.36 Ond os oedd y Saesneg yn iaith farbaraidd, yr oedd hefyd yn iaith masnach a chynnydd bydol, iaith addysg oleuedig a'r hyn a elwid gan ddeiliaid Cymreig yr Ymerodraeth Brydeinig mewn gwrthddywediad yn 'wareiddiad'. Os oedd y Cymro am ddangos ei fod cystal â'r Sais, yr oedd medru'r Saesneg yn anghenraid, hyd yn oed os golygai hynny ei fod yn agored i ddylanwad damniol nofelau Saesneg a drygau eraill. Ffordd o osgoi'r dilema yma oedd dadlau y gallai'r Gymraeg barhau'n iaith crefydd a chapel. Mynegai Kilsby Jones farn gyffredin wrth ysgrifennu, Iaith barddoniaeth, emyn, pregeth a phethau crefyddol yw y Gymraeg, ac ni fu hi erioed, ac ni fydd chwaith yn iaith masnach a marchnad.37 Credwyd y byddai neilltuo'r iaith i'r cylch arbennig yma, nid yn unig yn diogelu eneidiau'r Cymry, ond yn diogelu'r iaith i'r dyfodol hefyd. Fel y dadleuai un o'r cymeriadau mewn trafodaeth yn Seren Cymru yn 1864,