Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cadwalader Rowlands, Bywgraffydd cyntaf Syr Henry M. Stanley Ym mis Tachwedd, 1872, cyhoeddodd Cadwalader Rowlands ei fyw- graffiad o Henry Morton Stanley, yr arloeswr ifanc a ddaeth yn adnabyddus trwy Ewrob a Gogledd America o ganlyniad i'w orchest yn dod o hyd i'r Dr. David Livingstone yn Ujiji yng nghanolbarth Affrica yn ystod yr haf blaenorol. Bu gwrhydri Stanley yn destun o lawenydd ac o ryddhad cyffredinol ar ôl pryder mawr dros gyfnod o rai misoedd am ddiogelwch y cenhadwr enwog. Ofnid fod ei iechyd yn fregus iawn, ac ar ben hynny ei fod 'ar goll'. Mae'r stori yn ddigon gwybyddus fel na fwriedir cyflwyno hyd yn oed amlinelliad ohoni yma. Go brin hefyd fod angen atgoffa neb mai yn Ninbych, yn Ionawr, 1841, y ganwyd John Rowlands, y bachgen a newidiodd ei enw i Henry Stanley ar ôl ei fabwysiadu gan Henry Hope Stanley yn New Orleans ym 1860. Mae'r ffeithiau am y cyfnod cynnar yma yn hanes Rowlands/Stanley yn dra diddorol. Mae'n stori gymhleth o'r dechrau a phan gyfunir hi â hanes amrywiol deithiau fforiadol Stanley yn Affrica, 'does ryfedd iddo ef fod yn destun nifer dirifedi bron o fywgraffiadau yn ystod y pedwar ugain mlynedd diwethaf. Nid oes angen ailadrodd yma yr hyn a drafodwyd mor ddiwyd eisoes gan y llu o'i gofianyddion. Priodol yw pwysleisio bod gwaith ymchwil diweddar wedi taflu goleuni newydd a syfrdanol ar y dyddiau cynnar. Amcan yr ysgrif bresennol yw taflu golwg ar y cyntaf o'r niferus fywgraffiadau, ac yn fwyaf arbennig ceisio cyflwyno tipyn o hanes yr awdur, Cadwalader Rowlands, gwr a lwyddodd i drigo yn yr encilion cyn cyhoeddi ac ar ôl cyhoeddi ei gyfrol, Henry M. Stanley: The Story of his life yn 1872. Mae'r gyfrol o ddiddordeb a phwysigrwydd arbennig oherwydd mai dyma'r ymgais gyntaf i amlinellu 'troeon yr yrfa' yn hanes dyn ifanc hyglod nad oedd ond deg ar hugain mlwydd oed. Felly nid oedd dewis i'r awdur ond dibynnu ar adroddiadau cyfamserol yn y papurau dyddiol ac ambell gylchgrawn, ac yna