Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dr. Emyr Wynjones (19071999) Ni fu neb prysurach fel Cymro Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif na Dr. Emyr Wyn Jones a neb mwy poblogaidd nag ef ym myd llysoedd Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r byd meddygol fel y Gymdeithas Feddygol yn fwyaf arbennig. Ganwyd ef yn fab i weinidog o Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gweinidogaethai ei dad, y Parch. James Jones, yng Nghroes-y-waun, ger y Waunfawr, Arfon. Brodor o Aberdaron ydoedd a'i fam Ellen, yn hanfod o Glynnog Fawr. Aeth y mab i fyw yn niwedd ei oes i ymyl Aberdaron, ond treuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd proffesiynol yn ninas Lerpwl. Daeth yno o Ysgol Hugh Owen, Caernarfon. Roedd brawd iddo yn Allerton yn feddyg. Bu farw yn wr ifanc. A daeth y brawd iau i Brifysgol Lerpwl lle y graddiodd fel meddyg yn 1928 gyda'r Dosbarth Cyntaf ag anrhydedd mewn meddygaeth a llawfeddygaeth. Bwriodd ei brentisiaeth o dan Syr Robert Kelly a'r Athro John Hay ac fe gafodd ddwy Ysgoloriaeth. Y gyntaf oedd Ysgoloriaeth Goffa Samuels mewn meddygaeth a'r ail Ysgoloriaeth W Thelwell Thomas mewn patholeg. Gwnaeth draethawd ar gyfer ei radd MD ac ar ôl hyn fe dderbyniodd Ysgoloriaeth Ymchwil Cymdeithas Feddygaeth Prydain. Gan iddo benderfynu fod meddygaeth glinigol yn apelio ato yn fwy na phatholeg, ac ar ôl iddo gael ei MRCD yn 1933, fe'i hapwyntiwyd ar staff Ysbytai Lerpwl, hynny yw, yr ysbytai a oedd yn arbenigo ar hyfforddi myfyrwyr meddygol. Yna yn 1938 fe'i hapwyntiwyd i'r Ysbyty Brenhinol ei hun a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1972. Daeth yn ffisygwr o'r safon uchaf, yng ngofal Adran y Galon am chwarter canrif, yn Gyfarwyddwr Canolfan Ranbarthol y Galon yn Lerpwl a hefyd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau'r Galon yn y Brifysgol. Roedd ganddo glinig yn Rodney Street ac am ugain mlynedd bu'n ffisygwr ymgynghorol i Ysbytai Bangor, Rhyl a Wrecsam. Daeth ef a'r Dr J.