John Lloyd Williams y Botanegydd: Y blynyddoedd Gorchestol* Casglwr hen alawon gwerin a sefydlydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yw John Lloyd Williams i lawer o Gymry, ac er i'w gyfraniad arloesol i ddatblygiadau botaneg ei gyfnod fod yn gyfrwng i'w ddyrchafu i frig cynghrair gwyddonwyr y genedl, fel cerddor y dewisodd ei gyd-Gymry ei gofio. Er hynny, cyfeiria ef ei hun at ei ddiddordeb ym myd natur fel ei 'gariad cyntaf ac yn ôl ei gyfaddefiad ei hun penderfynodd hepgor llawer o'i atgofion o'r maes hwnnw yn ei hunangofiant oherwydd y prinder diddordeb a fodolai ymhlith ei gyd- Gymry y pryd hynny'. Ganed John Lloyd Williams yn 1854 yn y Plas Isa, Llanrwst, hen gartref un o gymwynaswyr mwyaf Cymru, William Salesbury, yntau yn arloeswr mewn botaneg gynnar ond a gofir yn bennaf fel cyfieithydd y rhan fwyaf o'r Testament Newydd i'r Gymraeg yn 1567. Dywed John Lloyd Williams: Ond ni throsglwyddodd y muriau i mi ronyn o ddawn yr ysgolor; er mai diddorol i un a fu yn Athro Llysieueg ydyw cofio bod y gwr yn llysieuydd gwybodus, fel y praw ei Lysieulyfr, a olygwyd gan y diweddar Stanton Roberts.2 sylw digon gwylaidd gan un a fu yn Athro Botaneg ac a gyfrannodd yn helaeth i ddatblygiadau gwyddonol y wyddor honno. Yr oedd John Lloyd Williams (ychwanegiad yn ystod blynyddoedd coleg oedd y 'Lloyd') yn un o saith o blant. Gweithiai ei dad am ysbaid yn un o'r gweithfeydd plwm yn Nant Bwlch yr Heyrn cyn symud i Chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, yn ddiweddarach. Maen debyg mai ei fam a gafodd y dylanwad mwyaf arno, gan ei annog i ddarllen yn helaeth ac ymddiddori ym myd natur. Meddai Lloyd Williams amdani, 'Yn rhyfedd iawn hefyd, ni byddai'n gwarafun imi grwydror coed a'r creigiau'.3 Os byddai rhwyg yn un o'i ddillad wedi iddo ddychwelyd o Rhan o fywgraffiad llawn sydd ar y gweill.