Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

anterliwt Huw Jones o Langwm, Hanes y Capten Ffactor, gan drafodaeth ar nodweddion yr anterliwt a'r modd y synnid am y cyfrwng, ac yna cynigir sylwadau ar waith yr enwocaf o ddigon o blith yr anterliwtwyr, sef Twm o'r Nant. Synhwyrir ymhellach fod sawl llinyn arall sy'n clymu'r amryfal drafodaethau ac ar yr un pryd yn codi cwr y llen ar feddwl a chymeriad y ganrif Un thema na ellir peidio ag ymglywed â hi wrth ddarllen y gyfrol, er nas pwysleisir mewn un man yn benodol, yw ceidwadaeth Cymry'r ganrif, a'u teyrngarwch i'r drefn wleidyddol. Crybwyllir y nodwedd hon pan ymdrinnir â'r ddau awdur rhyddiaith, Ellis Wynne a Theophilus Evans, a thrachefn yn y drafodaeth ar y Morrisiaid, Twm o'r Nant ac Iolo Morganwg, a hyd yn oed pan geir achos i gyfeirio at y carolau haf. Thema arall a adleisir yw'r modd y cefnodd y dosbarth uwch ar eu dyletswyddau traddodiadol gan adael bwlch y camodd to newydd o arweinwyr o blith y bobl gyffredin iddo. Dadlennol hefyd yw'r cyfeiriadau at dwf y wasg, a'r modd y bu i'r amryfal fudiadau elwa ar hynny, rhai i fwy graddau na'i gilydd. Y mae bylchau yn anorfod mewn cyfrol o'r fath gan mai rhyw ugain tudalen ar gyfartaledd a glustnodwyd ar gyfer pob pennod. Ceir cyfeiriadau- wrth-fynd-heibio, megis, at gymeriad- au lliwgar a diddorol megis Jac Glan-y- gors, Rhys Jones o'r Blaenau, Dafydd Jones o Drefriw, Jonathan Hughes Llangollen a William Wynn Llangyn- hafal (fe'i huniaethwyd â William Wynne yr hanesydd yn y mynegai), ond ni welais yr un cyfeiriad at Siôn Rhydderch (er darfod ei enwi mewn un dyfyniad), David Ellis, y copïwr llawysgrifau diwyd, a William Williams Llandygài. Ond ceir bylchau o fath gwahanol. Dewisodd Gerald Morgan yn ei bennod ddifyr ar y Morrisiaid ganolbwyntio ar y llythyr- au, ac o ganlyniad, cyffwrdd yn unig a wnaeth â'r farddoniaeth, a chyfeddyf Kathryn Jenkins ar ddiwedd ei phennod ar Bantycelyn iddi anwy- byddu rhai agweddau ar waith pennaf awdur y Diwygiad. At hyn, gall ambell sylw treiddgar ymddangos yn gam- arweiniol yng nghyd-destun y gyfrol gyfan. Yn ei phennod ar Oronwy Owen, myn Branwen Jarvis yn briodol iawn ei bortreadu yn y lIe cyntaf yn fardd crefyddol, ac ar y tir hwnnw fe'i lleolir yn yr un traddodiad â Phantycelyn. Ond gellid cynnwys Ieuan Fardd yntau yn yr un gwersyll. Y mae ef yn llawer parotach na Goronwy i bregethu yn ei gerddi ac i fynegi ei ofid ynghylch cyflwr yr eglwys a wasanaethai yn wyneb difaterwch yr esgobion ar y naill law a bygythiad y Methodistiaid a'u 'nadau drwg annedwydd' ar y llaw arall. Ofer chwilio am sylw i'r perwyl hwnnw yn y bennod ar Ieuan Fardd gan i Ffion Llywelyn Jenkins ddilyn trywydd cwbl wahanol. Wrth reswm, rhaid derbyn na ellir cynnwys popeth mewn astudiaeth fel hon. Cyflwyno yn hytrach na dihysbyddu'r maes oedd y nod. Y rhyfeddod yw i'r awduron rhyngddynt lwyddo i gwmpasu cymaint o weith- garwch llenyddol y ganrif yn ei amryfal weddau. Gallwn dybio y byddair darllenydd di-Gymraeg y mae'r testun- au gwreiddiol yn gaeedig iddo yn croesawu'r gyfrol gan fod y tair pennod ar ddeg yn crynhoi mewn modd eglur a thrylwyr brif ffigurau a phrif ffrydiau gweithgarwch y ganrif. Rhaid cofio hefyd fod ganddo at ei wasanaeth, os myn ddilyn y trywydd ymhellach, gyfres o fonograffau gwerthfawr ar Ellis Wynne, Goronwy Owen a William Williams, Pantycelyn yn y