Symud i'r prif gynnwys

Lewys Glyn Cothi (c.1425-c.1489) Lewys Glyn Cothi yw bardd caeth enwocaf a medrusaf Bro Dywi a Sir Gâr ac yn sicr yn un o'r goreuon ymhlith sêr cyfnod euraid ein barddoniaeth, sef y bymthegfed ganrif. Wrth geisio ei bwyso a'i fesur da o beth ei osod yn erbyn ei gefndir achos bu fyw mewn oes arbennig iawn yn hanes ein prydyddiaeth a'n gwleidyddiaeth, cyfnod llawn o ansicrwydd i'n cenedl gan iddi golli ei hannibyniaeth dan Edward I yn 1282. Daeth llywodraeth y Tywysogion a'u grym i ben, syrthiodd eu llysoedd a'u cestyll, a rhannwyd eu tiroedd yn siroedd dan ofal yr uchelwyr neu'r boneddigion, a hwy felly oedd yn ffynnu'n y Gymru oedd ohoni. Cyn hyn y Tywysogion a noddai'r beirdd, y Gogynfeirdd, a derbyn cerddi mawl am eu gwrhydri a'u dewrder mewn rhyfela a marwnadau ar eu hôl ar eu hymadawiad. Ond trwy ddawn neu ddyfais daeth yr uchelwyr yn rymus a llwyddiannus dros ben, ac o ganlyniad hwynt-hwy oedd yn rhoi llety, croeso a chynhaliaeth mewn bwyd a diod i'r beirdd crwydrol, y clerwyr. Felly dyma gyfnod mwyaf cain, disglair a thoreithiog ein barddas yn nwylo Beirdd yr Uchelwyr (c.l350-c.l550). Fel y dywedwyd, mae Lewys yn sefyll gyfysgwydd â chewri'r cyfnod, megis Tudur Aled, Guto'r Glyn, Dafydd Namor a Dafydd ab Edmwnd, ac y mae'n ymgorfforiad o holl nodweddion arbennig a rhyfeddol mesurau astrus urdd y beirdd. Mae'n wir nad yw wedi dihysbyddu pob un o'r pedwar mesur ar hugain, ond defnyddiai ambell un cwbl wahanol cyn i Ddafydd ab Edmwnd eu sefydlogi, ac felly mae'n arbrofi weithiau. Yn ôl arfer yr oes ac fel nifer mawr o'r beirdd, crwydro fel clerwr o lys i lys ac o blas i blas megis Rhydodyn (Edwinsford), Tre-gib, Parc-yr- hun, Nannau a Llysnewydd (Gwyr) a wnâi Lewys, gan dderbyn croeso a haelioni a chan fanteisio ar foethusrwydd bwyd, diod, a llety. O ganlyniad ac fel cydnabyddiaeth rhaid oedd moli'r gwr neu'r wraig, nid yn ormodol, a marwnadu ar eu hôl. Rhyfeddod y cyfnod, medd