Bachgen bach o Ddowlais: Yr Athro Emeritws Syr Glanmor Williams (1920-2005) Os bu unrhyw un erioed yn ymgorfforiad o'r 'bachan bech o Ddowlish', Glanmor Williams oedd hwnnw. Gwr bychan iawn ydoedd o ran maint: safai fymryn dros bum troedfedd yn nhraed ei sanau. Ond nid un i boeni ynghylch ei ddiffyg taldra mohono. Wedi'r cyfan, gwyddai'n dda fod ganddo alluoedd uwch na'r cyffredin ac, fel y byddai un o'i arwyr, Syr J. E. Lloyd, yn arfer dweud, nid oes angen i'r sawl a chanddo radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf ei gyfiawnhau ei hun i neb. A phan fyddai ei gyfeillion yn cyfeirio ato fel 'Glan bach', ag anwyldeb a pharch y gwnaent hynny. Ergyd drom i bawb ohonom oedd ei farw, yn 84 oed, ar 24 Chwefror 2005, a byddai'n dda iawn petai gennyf y gallu a'r awen i lunio ysgrif goffa a fyddai'n deilwng o'i fawredd fel hanesydd ac fel dyn. Ef, yn ddiau, oedd y mwyaf o'n haneswyr a'r mwyaf dylanwadol hefyd. Mewn ysgrif grefftus a gyhoeddwyd ganddo dros ugain mlynedd yn ôl yn y cylchgrawn hwn, dywedodd hyn am Martin Luther: 'Gan iddo fyw bywyd mor llawn a gweithgar, amhosibl fyddai ceisio cwmpasu'i gampau oll o fewn terfynau ysgrif fer.' Hawdd y gellid dweud hynny am rawd Glanmor Williams ei hun. Ni ellir gorbwysleisio dylanwad bro ei febyd ar werthoedd Glanmor. Yn ôl y llenor Dyfnallt Morgan, a fagwyd ym Mhenydarren, 'dinas a osodwyd ar fryn' oedd Dowlais ac yno ceid cymuned aml-ethnig glòs o deuluoedd dosbarth-gweithiol a oedd, yn ystod hirlwm blin y dirwasgiad, yn dwyn beichiau ei gilydd, yn gofalu am y gwan ar cystuddiedig, ac yn fodlon rhannu 'angen un 'rhwng y naw'. Ganed Glanmor ar 5 Mai 1920, yn unig blentyn Daniel a Ceinwen Williams. Hanai ei dad o sir Frycheiniog ai fam o sir Gaerfyrddin. Glöwr oedd Daniel Williams, ond ar ôl cael ei sigo deirgwaith gan ddamweiniau yn y lofa cymerodd waith fel casglwr yswiriant ac, wedi hynny, fel