John Roberts: 'Telynor Cymru' 1816-1894 WYN THOMAS Pobl wrthodedig, yn byw ar ymylon cymdeithas fu'r sipsiwn erioed a hynny ar hyd y canrifoedd ac ym mhob gwlad a chyfandir. Erbyn heddiw, er gwaethaf y gormes a'r gwrthodiad mae oddeutu deng miliwn ohonynt ar wasgar ledled y byd1 ond yr un nodwedd amlwg sy'n eu clymu ynghyd yw'r lie pwysig sydd, ac a fu i gerddoriaeth a dawns ym mywyd y Romani. Hyn yn ddi-os, a gadwodd eu diwylliant yn fyw, a'u gallu fel perfformwyr a diddanwyr a hawliodd sylw ac edmygedd bonedd a gwreng yn ddiwahân. Yma yng Nghymru, y mae enwau fel Lock, Boswell, Lee, Ingram a Hogan i gyd yn lled gyfarwydd. Dyma ddisgynyddion y teuluoedd Romani gwreiddiol fu'n troedio daear Cymru. Ond wrth grybwyll cerddoriaeth a dawns fodd bynnag, rhaid cyfeirio yn benodol at deulu amlochrog ac amryddawn Abram Wood (c.1699-1799).2 Hwy, yn anad neb arall fu cynheiliaid y traddodiadau cerddorol Cymreig y delyn deires, ceinciau ac alawon gwerin y genedl a diddordeb ysol y teulu hwn yn arferion y Cymry sicrhaodd barhad a dilyniant iddynt ac a fu'n gyfrwng i feithrin perthynas rhyngddynt a'r gymdeithas o'u hamgylch. Fel y dywed golygydd Y Cerddor ym 1932: In no aspect of life have the Welsh Gypsy and the ordinary Welshman kept closer touch than in music. There are few traditions to which the Welsh Gypsy himself clings more tenaciously than to our Welsh tunes.3 Perthynai John Roberts ('Telynor Cymru') i linach Abram Wood ac er mai hanner sipsi ydoedd (gan fod ei dad wedi priodi aelod o deulu'r Romani Cymreig) eto ym mherson 'Telynor Cymru' fe gawn ymgorfforiad o ddau draddodiad cwbl wahanol. Fel cerddor amlycaf y sipsiwn yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg amlygai ddawn a dealltwriaeth gynhenid o arddull a chwaeth berfformio'r