Symud i'r prif gynnwys

Camp Cerddor a Gallu Gwyddonydd: J. Lloyd Williams a'i Gylchgrawn ELEN WYN KEEN Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon yn 1906. Un o brif amcan- ion y Gymdeithas oedd casglu a diogelu alawon gwerin Cymreig rhag mynd i ddifancoll llwyr tasg a oedd yn galw am gryn ddyfalbarhad yn sgil yr holl ragfarn a oedd yn bodoli yn erbyn traddodiad yr alaw werin, nid yn unig o ganlyniad i ddiwygiadau crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond hefyd o du'r cerddorion proffesiynol. Un dull a ddefnyddiwyd i warchod yr alawon hyn ac i geisio adennill statws iddynt oedd eu cyhoeddi mewn cylchgrawn. Cynhaliwyd cyfarfod o danysgrifwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym Mangor ar 8 Ionawr 1909 pryd y penodwyd John Lloyd Williams (1854-1945) yn olygydd cerddorol anrhydeddus cylchgrawn swyddogol y Gymdeithas, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru neu Journal of the Welsh Folk Song Society. Ganwyd Lloyd Williams ym Mhlas Isaf, Llanrwst, yr hynaf o saith o blant. Bu'n ddisgybl yn yr Ysgol Frutanaidd yn Llanrwst ac yn ddiweddarach yn ddisgybl-athro cyn ennill ysgoloriaeth i'r Coleg Normal ym Mangor. Penodwyd ef yn brifathro Ysgol Elfennol Garndolbenmaen yn 1875; deunaw mlynedd yn ddiweddarach aeth i'r Coleg Gwyddonol Brenhinol yn Llundain i astudio Botaneg gan arbenigo mewn mathau arbennig o wymon. Yn 1897 penodwyd ef yn ddarlithydd-cynorthwyol ac yn ddiweddarach yn ymgynghorydd amaethyddol yn Adran Fotaneg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor cyn ei ddyrchafu i gadair Adran Fotaneg, Prifysgol Cymru Aberystwyth ym mis Ionawr 1915. Bu'n hynod weithgar drwy gydol ei fywyd fel golygydd, darlithydd a chasglwr gan geisio codi statws a hyrwyddo'r defnydd o ganeuon gwerin Cymreig. Bu'n olygydd Cylchgrawn Alawon Gwerin Cymru am gyfnod o ddeuddeng mlynedd ar hugain ac er iddo fynegi ei awydd i ymddiswyddo ar