Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ALLAN ARYCOMIN DiARDDEL PETER WILLIAMS GYNT Mae Peter Williams, un o'r Tadau Methodistaidd, yn enwog yn hanes Cymru am ddau reswm penodol. Yn gyntaf, clywodd pawb am Feibl Peter Williams. Cafwyd 32 o argraff- iadau ohono 0 1770 ymlaen, heb sôn am adargraffiadau ac ychwanegiadau gan rai pobl eraill. Os yw argraffiad 1770 yn eich meddiant yr ydych yn ffodus, ond mae cymaint o'r lleill i'w cael fel nad oes rhyw fri mawr arnynt yn llyfryddol. Yna, fe'i cofir oherwydd y Diarddeliad. Cafodd ei daflu allan o'r mudiad y rhoes flynyddoedd o ymdrech, o chwys a llafur iddo. Yn ôl ei gofiannydd safonol, y Parchg. Gomer M. Roberts, yr oedd y digwyddiad hwn gyda'r mwyaf ysgytwol yn hanes Methodistiaeth Cymru. Dim ond y rhwyg neu'r ffrwgwd rhwng Howel Harris a Daniel Rowland sy'n perthyn i'r un categori. Dau ddigwyddiad sy'n ein hatgoffa nad oedd y "Tadau" hyn yn neilltuol am y ddawn i oddef ei gilydd mewn cariad! Cymwynas fawr â'r neb sy'n ymwneud â'r Beibl yw'r Con- cordance; llyfr anhepgor i gael hyd i adnodau sy'n mynnu dianc o'r cof! Ceir nifer ohonynt yn Saesneg. Byddaf yn dibynnu ar y "Mynegeir Ysgrythyrol neu Ddangoseg Egwyddorol o'r Holl Ymadroddion yn yr Hen Destament a'r Newydd" a luniwyd gan Peter Williams. Mae hyn yn enghraifft o lafur anhygoel y dyn ym maes cyhoeddi llyfrau. Yr oedd tref Caerfyrddin yn ei oes ef yn un o ganolfannau pwysicaf argraffu a chyhoeddi. Mae'r rhestr o lyfrau a chyhoeddiadau Peter Williams yn yr Atodiad i'w gofiant gan Gomer Roberts yn ddigon o ryfeddod. Dangoswyd egni di- ben-draw ganddo yn rhannu Beiblau a phob math o lenydd- iaeth grefyddol. Nid oedd yn yr un byd athrylithgar â'r Williams arall o Bantycelyn ond cyflawnodd wasanaeth aruthrol i'r cyfeiriad hwn. Gyrfa Arwrol A meddyliwch am yrfa arwrol y dyn yn mentro i barthau mwyaf peryglus Cymru, yn y Gogledd a'r De, i bregethu yng ngwres y Diwygiad Methodistaidd. Cafodd ei ddiystyried gan awdurdodau'r Eglwys Sefydledig, a rhoddwyd pob math o rwystrau ar ffordd y ciwrat ifanc. Cafodd erledigaeth ffiaidd. Gwelodd gasineb ofnadwy'r dorf yn y Bala, ym Môn, ac yn y Drenewydd: pobl yn lluchio cerrig ato a thaflu wyau drwg. Yn Nhrefriw taflwyd ef i'r afon, yn nyfnder y gaeaf. Yn y De, yn nes i'w gynefin, cafodd brofi'r un math o ffyr- nigrwydd yn Sir Aberteifi, ac yn Abertawe. Rhoddwn un enghraifft, pan oedd yn pregethu yn yr awyr agored ar garreg-farch yn nhref Cydweli. "Wedi iddo ddarllen pennod a phan oedd ar fedr gweddïo, neidiodd un o'r dyrfa i fyny a thynnu'r Beibl o'i ddwylo, a'i lusgo oddi ar y garreg-farch. Yna ymosodwyd arno yn ddidrugaredd gan ei faeddu yn dost â ffyn; dodwyd ef wedyn ar gefn ei farch a gyrrwyd yr Alun Page Y Parch. Peter Williams (1723-96). anifail dros y ffosydd ar y morfa. Wedyn aethpwyd ag ef i dafarn a gorfodwyd iddo yfed; yntau a ffugiodd yfed ond a arllwysai'r ddiod i'w fotasau. Wrth ei weld yn hir cyn dychwelyd danfonodd ei briod weision i edrych amdano; cafodd y rheiny ef yn y dafarn, a thrwy eu cymorth hwy y rhyddhawyd ef o ddwylo'r erlidwyr". Gomer Roberts sy'n dweud yr hanes. Dywedir bod hyn wedi digwydd yn y man 11e ceir capel y Morfa, addoldy'r Presbyteriaid heddiw. Mae rhyw naws sy'n perthyn i'r oes Apostolaidd yn yr helyntion hyn gan beri imi gofio am brofiadau cyffelyb yr Apostol Paul "Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ympryd- iau' Mae'r math yma o beth yn rhan o gynhysgaeth yr Eglwys ar hyd yr oesau. Mae'n hynod fel y byddwn an anghofio gymaint fu arwriaeth pobl Dduw erioed. Siarad am godi'r gwan i fyny mae'r Efengyl yn barhaus yn gwneud hyn, o ddyddiau'r merthyron yn yr Eglwys Fore ac ymlaen at wrhydri Catholig a Phrotestant fel ei gilydd yn dioddef hyd at angau. Mae hanes pob sect ac enwad yn disgleirio gan enwau'r glewion dioddefus. Ac mae'r pris yn uchel i'w dalu am gyffesu Crist ar fwy nag un cyfandir heddiw. Dagrau pethau, wrth gwrs, yw fod carfannau eglwysig gwahanol wedi erlid ei gilydd. Pwnc sy'n ddigon hysbys, ac yn rhoi cyfle i gyhuddo'r saint! Ond cofiwn yr arwriaeth hefyd. Sut bynnag, ni ddylem gael ein camarwain gan yr ymad- rodd am y Tadau Methodistaidd. Yng ngwawr y Diwygiad nid gwyr wedi oeri'u gwaed mohonynt: i'r gwrthwyneb. Bechgyn ifainc ym mlodau'u dyddiau oeddynt pan aethant