Colli Hwyl Hywel 2 Golygyddol 3 Mudiad Eglwysi Tŷ 4 Cymorth i Fenywod 6 Lal Hicks Lliw Pechod 9 F.M. Jones Williams Pantycelyn 11 Kathryn Jenkins Newyddion Shelter 14 Bugeilio'r Praidd 15 Morgan D. Jones AdaryLlyfr 17 Norman Closs Parry Emyn 18 John Lloyd Delfryd a Datblygiad 19 E.R. Lloyd Jones Gair o'r Gair 21 D. Hugh Matthews Adolygiad 22 Huw Llewelyn Jones Y Gornel Weddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Williams, Saunton, Maesdu Ave., Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: Maxwell Evans Ysgrifennydd y Pwyllgor: W.H. Pritchard. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. COLLI HWYL Bu n arfer ers rhai blynyddoedd i gynnwys ar y dudalen hon gartŵn Hwyl Hywel. Y mae'n chwith meddwl na chawn mwyach rannu yn yr hwyl, na mwynhau gwaith gogleisiol yr arlunydd a'r cartwnydd dawnus, na phrofi o'i gyfeillgarwch a'i gymwynasgarwch mawr. Y GWR BYRLYMUS Pan fu farw Hywel Harris ar Dachwedd 26 yn Ysbyty Treforys, ymledodd y newydd fel ton o dristwch trwy dref Aberystwyth a thrwy Gymru. Collwyd un oedd yn gyfaill cywir, yn gymeriad siriol, yn gymwynaswr hael, yn athro heb ei ail, yn artist am- ryddawn ac yn Gristion llawen. Gwr byrlymus oedd Hywel Harris: byrlymus ei ddawn, byrlymus ei hiwmor, byrlymus ei siarad, byrlymus ei frwdfrydedd, byrlymus ei garedigrwydd a byrlymus ei ffydd. Yr oedd yn arlunydd gwirioneddol ddawnus a gyfunai naturioldeb a gwreidd- ioldeb yn ei waith, yn arbennig felly yn ei dirluniau. Credai yn angerddol fod celfyddyd yn rhywbeth i'w fwynhau a ffieid- diai ffalster rhai mathau o feirniadaeth gelfyddydol uchel-ael, ffansïol. Petae wedi ei symbylu gan uchelgais personol a'r awydd i ennill clod ac enw iddo'i hun, byddai wedi cowtowio i feirniadaeth a chwaeth ffasiynol. Ond nid oedd hynny yn ei natur, yn wir fe ystyriai hynny yn lygriad o swyddogaeth yr artist. Gwell o lawer ganddo oedd magu gwerthfawrogiad o gelfyddyd ymysg ei ddisgyblion yn yr ysgol ac yn ei ddosbarthiadau i oedolion, meithrin doniau amaturiaid addawol a dysgu pobl i fwynhau llun a lliw, patrwm a chynllun. Y CARTWNYDD CRISTNOGOL Daeth yn fwyaf adnabyddus fel cartwn- ydd. Iddo ef yr oedd i'r cartwn Ie eithriadol bwysig o fewn arluniaeth a thrafodai'r dull a'r dechneg gyda'r un difrifoldeb ag y trafodai waith Rubens, Van Goch neu Salvador Dali. Fel cartwnydd crefyddol gwnaeth gyfraniad gwbl unigryw, ar dudalennau'r Goleuad i ddechrau ac yn ddiweddarch yn Cristion. Llwyddodd i gyfleu hiwmor capel a chrefydda yn sensitif, yn gynnil, yn ddiwenwyn a bob amser yn ogleisiol. Nid pawb sy'n sylwedd- oli cymaint o ddigrifwch gwirioneddol'ac o hwyl go iawn sydd ym myd crefydd yng Nghymru. Cydiodd Hywel yn y traddodiad a fynegwyd cynt yn y stori lafar neu'r atgof digrif a'i drawsblannu i'r darlun gwledol bachog. Wrth wneud hynny daeth â llond gwlad o hwyl i'n bywyd, ac yn bwysicach fyth fe'n dysgodd i chwerthin ar bennau'n hunain. A does dim gwell moddion i drin clefyd sych-dduwioldeb a phla ffug- bwysigrwydd. Fe'i clywais yn dweud droeon fod hiwmor yn agos iawn at galon yr efengyl. Dawn wedi ei chysegru oedd dawn Hywel Harris. Gwnaeth beth wmbredd o waith yn dawel y tu ôl i'r llenni: cynllunio posteri, cloriau i raglenni ac adroddiadau capel, deunydd gweledol i Ysgol Sul ac i wasanaethau arbennig, ac nid i'w gapel ei hun yn unig, ond i lu o fudiadau gwir- foddol ac achosion da. Os deuai unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am ei waith, cyfeiriwyd honno, nid i'w boced ei hun, ond i nifer o wahanol elusennau a gefnogai. Yn y modd hwn cyfrannodd gannoedd os nad miloedd o bunnoedd i goffrau achosion teilwng dros y blynyddoedd. Iddo ef yr oedd hyn yn rhan o gysegru ei ddawn i waith y deyrnas. Y BLAENOR DA Ond nid ei waith yn unig a gysegrwyd, ond ei bersonoliaeth gyfan, ei amser a'i ynni. Yr oedd yn flaenor yn Eglwys y Morfa, Aberystwyth, ac yn batrwm o flaenor, yn rhoi o'i orau i'r swydd. Anaml y collai wasanaeth, neu gyfarfod gweddi neu gyfarfod o'r Gymdeithas, a byddai ymhlith y cyntaf i ymateb i bob gwaith a phob gofyn. Bu'n brysur i'r diwedd a llwyddodd i gyfuno'r holl brysurdeb â sirioldeb a hiwmor di-ball. Yr oedd y wên, y sylw ysmala a'r cynhesrwydd naturiol hwnnw a'i nodweddai yn ei wneud yn ffrind i bawb oedd yn ei adnabod. Cydymdeimlo, yng ngwir ystyr y gair, a wnawn â'i weddw a'i ferch a'r teulu i gyd, gan fod pob un ohonom ei gyfeillion, ei gyn-ddisgyblion, ei gyd-aelodau a phawb a fyddai'n cael mwynhad o'i waith-yn rhannu yn eu colled a'u hiraeth hwy.