Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gweithiodd yn ddiwyd dros addysg yng Nghymru. 'Roedd ganddo brofiad ymarferol fel athro yn ei ysgol ei hun yn hen gapel Ffaldybrenin ac yn Glen View. Yn 1870 ceid efyn frwd dros sefydlu Coleg Prifysgol yn Aberystwyth, ond yn wahanol i lawer o Anghydffurfwyr yr oedd yn gwbl bleidiol i'r wladwriaeth estyn cymorthdal i ysgolion. Credai y byddai hynny o gymorth i addysg mewn cyfnod pryd, yn ôl Vyrnwy Morgan, 'anyone in the shape of a man was deemed fit to teach children', a phryd y cynhelid ysgolion mewn capeli ac eglwysi heb fod ynddynt wres nac awyr iach na chyfleusterau o unrhyw fath. Yr oedd ganddo wrthwynebwyr ar gyfrifun peth arall, sef ei gefnogaeth i blant ac oedolion ddysgu Saesneg yn llithrig er mwyn meddiannu ar ddiwylliant rhyngwladol. I'r amcan hwnnw lluniodd werslyfr, Cymorth i'r Cymro, ac efallai fod rhoi enw Saesneg ar ei gartref yn ystum tuag at ddwyieithrwydd. YSBRYD AFLONYDD Ni ellir dwyn hanes Kilsby i ben heb gyfeirio at ei wleidyd- diaeth. 'Roedd yn Rhyddfrydwr brwdfrydig. Yn ystod ymgyrch etholiadol pan frwydrai ei gyfaill, Maitland, yr ymgeisydd Rhyddfrydol, yn erbyn Howell Gwynn, y Ceid- wadwr, a ystyriai Kilsby yn llawer rhy hen, cymharodd Kilsby ef i hen geffyl ac meddai, 'Byddai'n well i Mr. Gwynn feddwl am fynd i'r bedd yn hytrach nag i'r Ty Cyffredin i gynrychioli ffermwyr Brycheiniog!' Nid oedd chwaith yn llwyrymwrthodwr. Un tro pan welodd weinidog arall yn gwisgo bathodyn dirwest dywedodd Kilsby wrtho am ei dynnu i ffwrdd: "Rwyt yn rhy denau i fod yr llwyrymwrthodwr; dylet ddrachtio pedwar neu bump glasiad o gwrw i lawr dy gorn gwddw bob dydd!' Clafychodd Kilsby yn 1881 o ganlyniad i haint ar ei ysgyfaint. Dywedir mai ei ddymuniad oedd cael ei gladdu yn naear Glen View, ond gan y byddai hynny yn rhwystro'i fab rhag gwerthu'r ty a'r meysydd, anwybyddwyd ei ddymuniad a chladdwyd ef, yn ôl dymuniad ei weddw a'i fab, gan yr eglwys yn nhir yr eglwys, yn yr hen fynwent yn Llanwrtyd. Yn ôl yr hanes unodd person y plwyf a'r Annibyn- wyr lleol i geisio perswadio ei fab i ganiatáu i rai o'r gweinidogion lleol weddïo yn y cartref ar ddydd ei angladd, ond yr unig gydnabyddiaeth a gafwyd o Anghydffurfiaeth filwriaethus Kilsby oedd y caniatâd a roddwyd i'w gyfaill a'i gyd-weinidog yn Llanwrtyd, y Parchg. R. James, i ledio emyn yn yr eglwys ac ar lan y bedd. Dywedir i Maitland, y gwr y bu Kilsby yn cefnogi ei yrfa wleidyddol, wrthod cyfrannu yr un geiniog tuag at ei gofeb fel protest na chaniatáwyd dymuniad ei hen gefnogwr. Hwyrach mai teimlad o anesmwythyd cyffredinol oedd yn cyfrif am y chwedl a ledodd drwy'r cwm fod drychiolaeth i'w weld ar ei fedd gyda'r nos, ac yr oedd llawer yn tystio iddynt ei weld. Ond maes o law penderfynwyd nad oedd dim goruwchnaturiol ynglyn â hyn, ond bod golau yn disgleirio dros yr afon Irfon o un o ffenestri uchaf hen gartref Kilsby ar y llechwedd gyferbyn yn syth ar y golofn ar ei fedd. Tybed? Yn ei ddydd cyfrifid Kilsby fel breuddwydiwr cymysglyd ac ysbryd aflonydd. Er ei holl dalent roedd ei fwriadau y tu hwnt i'w gyflawniadau. Er hynny, heddwch i'w lwch ddywedwn i. GWEDDI DROS GARCHARORION CYDWYBOD Gweddiwn am gael ein meddiannu'n llwyr gan dosturi dros bawb sydd wedi colli eu rhyddid yn enw'r gwirionedd O Dduw ein Tad, gwyddwn fod tosturi yn gofyn inni fynd i fannau lle mae'n brifo: i leoedd o ofid, i rannu torcalon, ofn, dryswch a galar. Y mae tosturi yn ein herio i erfyn gyda'r tlodion am gyfiawnder, i gysuro'r unig, i wylo gyda'r rhai sydd mewn dagrau. Y mae tosturi yn gofyn inni fod yn wan gyda'r gweiniaid, yn orthrymedig gyda'r gorthrymedig, yn ddi-rym gyda'r di-rym. Y mae tosturi yn gofyn inni ein huniaethu ein hunain yn llwyr â chyflwr y ddynolryw. Rho nerth a chadernid inni fod yn dosturiol bob amser, gan gofio yn arbennig y carcharor(ion) cydwybod gweddïwn drosto(ynt) a thros bawb sy'n cael eu herlid a'u poenydio oherwydd eu safiad dros y ffydd. Gweddïwn hyn oll yn enw yr Un mwyaf tosturiol a fu erioed, ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Amen. (Rhydd-gyfieithiad o un o weddïau Amnest Rhynglwadol a ddefnyddir unwaith y mis gan aelodau Eglwys St. Ioan, Llangollen, gan gofio'n arbennig am Pana-Yana Kyun, sy'n garcharor cydwybod yn Korea). NIA RHOSIER, Llangollen.