Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Can mlynedd yn ôl i eleni sefydlwyd Cenhadaeth Deheudir Cymru y Wesleaid o dan arolygiaeth ERIC EDWARDS Gweinidog yn Eglwys y Methodistiaid Wesleaidd, John Evans, a benodwyd yn arolygwr y Genhadaeth a sefydlwyd ym Mhontypridd yn 1893. Cafodd ei eni yn Tý Du, tyddyn yn Eglwysbach, yn sir Ddinbych, 28 Medi 1840, a daeth enw'r pentre megis yn atodiad i'w enw bedydd. Mudodd ei rieni i'r Goleugell, ffermdy 'o fewn dau led cau' i Tŷ Du ac yno y bu cartref John Evans am y deuddeng mlynedd cyn mynd ohono, yn 1860, i Dregele (cylchdaith Amlwch) yn was cylchdaith, ei dderbyn yn ymgeisydd am y Weinidogaeth ac yno dreulio'r ddwy flynedd gyntaf ar ei brawf a'i dderbyn yn weinidog cyflawn yn yr Eglwys Wesleaidd. Yn Eglwysbach adwaenid ef ymhlith ei gydnabod feljohn Glygall', ond wedi dod i restr gweinidogion y Wesleaid, yn John Evans (B) am fod gweinidog o'r un enw eisoes yn y Weinidogaeth honno. Yn ddiweddarach y daeth yr arfer o roi enw canol i weinidogion o'r un enw. Yr enw, fodd bynnag, a lynodd wrth John Evans, a'i adnabod wrtho gan y Wesleaid, ac eraill, oedd John Evans Eglwysbach. Daeth ei edmygwyr, a'r rhai a ddaeth o dan ddylanwad ei bregethu grymus i gyfeirio ato, gyda pharch ac edmygedd mawr, fel 'Yr Eglwysbach'. Daeth ar ei union, ar ôl dechrau pregethu yn 17 oed, yn fawr ei ddylanwad oherwydd 'swyn anghymharol ei lais, bywiogrwydd ei ddychymyg, ei ddull dramatig, ei ddiffuant- rwydd a'i angerdd.' At hyn, daeth atyniad ato oherwydd ei harddwch corfforol. Daeth galw am lun ohono ac o'i gael a'i atgynhyrchu gwerthwyd nifer fawr ohono. 'Roedd un yn hongian ar y pared uwchlaw y gadair siglo yn y cartref y cefais i fy magu ynddo ac edrychais arno laweroedd o weithiau cyn gwybod dim am y pregethwr ond ei fod yn landeg yr olwg arno. SEREN DDISGLAIR Dywed John Alun Roberts am John Evans mai ef oedd 'y seren fwyaf disglair a'r pregethwr mwyaf poblogaidd fu erioed yn hanes Wesleaeth Gymraeg.' Yn marn y Dr. J. Vernon Lewis a glywodd John Evans yn pregethu oddeutu dwsin o weithiau, ef oedd y 'pregethwr a gyfunai bopeth ymddangosiad, llais, cymeriad, huodledd, treidd- John Evans, Eglwysbach garwch meddwl, angerdd ac eneiniad a'r pregethwr mwyat a glywsai' E.T. Jones, un o'r pregethwyr mwyaf gyda'r Bedyddwyr. Fel eraill o weinidogion yn yr Eglwys Wesleaidd, 'teithiodd' John Evans, ar ôl ei ordeinio, o un gylchdaith Gymraeg i gylchdaith Gymraeg arall, saith o gylchdeithiau i gyd, am naw mlynedd ar hugain, 0 1861 i 1890. Wedyn aeth ar wahodd- iad i gylchdaith Saesneg yn Llundain. 'Gwnaed pob ymdrech dichonadwy i'w berswadio i aros gyda'i bobl ei hun, er mwyn ei wlad, ac er mwyn ei hunan, fel y barnai llawer.' Mynegwyd gofid mewn Synod a gynhaliwyd ym Miwrmares yn 1888, 'oherwydd y cwrs y bwriadai John Evans ei gymeryd' a chynhaliwyd Arddangosiad Cyhoeddus o Ymlyniad wrth y Parchg. John Evans (Eglwysbach) yn nhref Dinbych a Thomas Gee yn bresennol yn erfyn ar y gynulleidfa i ddangos, trwy 'godi eu dwylaw' os oeddent o blaid i John Evans fynd at y Saeson, 'ac nid oedd llaw i fyny!' Symud fodd bynnag a wnaeth John Evans gan gadw ei addewid i oruchwylwyr cylchdaith Liverpool Road, Islington, a dweud fod ganddo resymau 'dros ymadael am ysbaid, ac y dychwelai, os byw ac iach, i lafurio ymhlith y Cymry.'