Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mi fydd Dewi Llwyd yn gyfarwydd i ddarllenwyr Cristion fel darlledwr radio a theledu medrus ac amryddawn. Ond yma, bodlonodd yr holwr craff i gael ei gyfweld ei hun! Cyfle i ni ddod i adnabod Dewi Llwyd, y darlledwr a'r Cristion. Bywgraffiadol Beth yw eich enw llawn? Dewi Llwyd. Roedd 'na Williams yn gynffon iddo ar un adeg ond llithrodd hwnnw i'r naill ochr rhyw ugain mlynedd yn ôl. Nid fod hynny wedi rhwystro un oedd yn arfer bod yn bennaeth arnai rhag fy ngalw'n Williams fyth oddi ar hynny! A beth am eich gwreiddiau? Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn Neiniolen, a Threforys, gan ddod yn ôl i'r gogledd ychydig ddyddiau cyn fy mhenblwydd yn chwech. Ym Mangor y bûm wedyn, ac fel hogyn o Fangor y byddaf yn sôn amdanaf fy hun gan amlaf. Penderfynodd fy nhad, a oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr, ymlonyddu ar ôl symud ddwywaith ac o'm safbwynt i beth bynnag, 'roedd hynny'n dda o beth! Yn lle y derbynioch chi eich addysg? Ysgolion St. Paul, a Friars ym Mangor. Y gyntaf yn Gymraeg ei chyfrwng a'r ail yn drwyadl Seisnig, ond ar y cyfan, fel dyddiau dedwydd y byddaf yn eu coflo nhw. Yn anarferol efallai, mae amryw o'm cyfeillion ysgol yn dal yn y cyffiniau. O Fangor ymlaen i brifysgolion yng Nghaerdydd, Llundain ac yn ddiweddarach yn Wash- ington D.C. gan dreulio cyfnodau cynhyrfus hefyd mewn colegau yn Ffrainc a Sbaen. Wedi hynny i gyd 'roeddwn yn fwy na pharod i gynnig am swydd a dechrau ennill fy nhamaid! Diddordebau Pa diddordebau hamdden sydd gennych? Chwaraeon gan gynnwys ambell gêm sboncen a defnyddio'r tocyn tymor yn Old Trafford mor aml ag y bo modd. 'Dydy rhywun byth yn blino ar wylio Cantona a Giggs. Darllen tipyn o bopeth, ond mae i gofiannau gwleidyddol apêl arbennig. Beth yw eich hoff raglen ar y radio a'r teledu? Ar deledu, Newsnight, yn bennaf oherwydd holi'r dihafal Jeremy Paxman. Os mai honno ydi'r hoff raglen mae'n debyg mai Desmond Lyneham ydi'r cyflwynydd y mae pob cyflwynydd arall yn ei edmygu. Yn bersonol, dysgais lawer gan ddau ohebydd disglair a roddodd yn hael o'u hamser a'u doethineb imi yn y gorffennol, Gwyn Llewelyn a Martin Bell. Heb seboni, mae rhaglen radio fy nghyd-gyflwynydd, Beti a'i Phobl yn gyson safonol. Beth yw eich syniad o wyliau delfrydol? Crwydro Ffrainc neu Sbaen, gan osgoi'r torfeydd. Fuaswn ddim yn gwrthod gwyliau sgio ychwaith pe bai cyfle. Oes yna Iyfr da a ddarllenoch yn ddiweddar? Amryw Bethau, Thomas Parry. Too Close To Call Sarah Hogg a Jonathan Hill (hanes cyfnod y ddau yn gweithio i John Major yn rhif 10 Downing Street). Oes yna rywun y buasech yn hoff o'i gyfarfod? Nelson Mandela. Bu imi sefyll o fewn ugain Ilath iddo yn ystod cyfnod yr etholiadau yn Ne Affrica, chefais i ddim y fraint o'i holi. Ar nodyn llai difrifol, buaswn yn neidio at y cyfle i gyfweld Eric Cantona! Beth yw eich hoff gerddoriaeth? Cwestiwn anodd os nad amhosibl ei ateb. Fynnwn i fawr nad oes mwy o ddefnydd o'r peiriant CD na'r teledu yn ein ty ni. Mae'r dewis o gerddoriaeth yn dibynnu ar yr hwyliau gan amrywio o Steve Eaves i Simon & Garfunkel, o Maxime Le Forestier i Mozart! A phe bawn i'n cael fy ngorfodi i ddewis un darn er mwyn ei gario i ynys bell mae'n debyg mai'r Requiem gan Mozart fvddai hwnnw. Ond fel un a deithiodd i Lydaw ddwywaith gyda'r grwp, mae'n rhaid ychwanegu yn y cyswllt yma fod 'na Ie anrhydeddus ar y silff recordiau hefyd i Mynediad am Ddim! Eich Gyrfa Pryd y bu i chi gychwyn ar eich gyrfa? Ymuno â'r BBC wrth i 1979 ddirwyn i ben. Crwydro'r byd fel gohebydd tramor oedd un uchelgais. Cefais wneud hynny droeon pan oedd y ffrwyn ariannol ar BBC Cymru'n fwy llac nag y mae heddiw. Yn bwysicach fyth, 'roeddwn am aros yng Nghymru i ddarlledu yn Gymraeg. Am gael gwneud hynny am flynyddoedd, 'rwy'n dra diolchgar. Beth sy'n rhoir boddhad mwyaf yn eich gwaith? Mae i'r gwaith ei amryfal agweddau, ac mae'r cyfan yn dal i roi boddhad mawr imi, hyd yn oed ar ôl un mlynedd ar ddeg o gyflwyno'r newyddion ar deledu. Erbyn hyn, mae'n debyg mai'r gwaith o geisio holi, yn gwrtais ond yn galed, sy'n apelio'n fwy na dim, yn enwedig os daw cyfle ar raglen wleidyddol fel Maniffesto i wneud hynny