Symud i'r prif gynnwys

Cofio Alun Creunant Davies Richard Morgan a Pryderi Llwyd Jones yn cofio a dlolch am gyfranlad Alun Creunant Davies i fywyd y ffydd yng Nghymru Diau y bydd llawer yn cofio Alun Creunant Davies am ei waith arloesol ym myd cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru, corff sydd bellach wedi tyfu'n sefydliad pwysig yng Nghymru. Ond pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf roedd ei gyfnod disglair fel Cyfarwyddwr y Cyngor yn dirwyn i ben. Yr oedd eisoes wedi rhoi'n helaeth o'i amser a'i ddoniau wrth wasanaethu nifer o gyrfftra'n gweithio gyda'r Cyngor. Ond wrth ymddeol daeth o hyd i egni a brwdfrydedd newydd a arweiniodd at ehangu a dyfnhau cylch ei wasanaeth. Nid oes lle i fanylu ar ei holl ymrwymiadau. Roedd rhestr ei gyfrifoldebau'n rhyfeddol. Yn fy mywyd, hyd yma, deuthum ar draws dau berson lle roedd yr hunan yn cael ei anghofio yn wyneb maint y gwasanaethu er lles eraill. Alun oedd un. Y llall oedd y diweddar Dr Emrys Evans. Braint i mi oedd adnabod y ddau ohonynt a chyfrif y ddau ohonynt yn gyfeillion ac yn gydweithwyr. Dros nifer helaeth o flynyddoedd bu'n cyflawni swyddogaeth fel Trysorydd Pwyllgorau y Beibl Cymraeg Newydd, Darlleniadau Beiblaidd a Chaneuon Ffydd pwyllgorau a fu'n gyfryngau i sicrhau Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 (ac argraffiad diwygiedig yn 2004), Mynegair i'r Beibl Cymraeg Newydd yn 1998 a'r Llyfr Emynau Cydenwadol Caneuon Fydd yn 2001. Oni bai am weledigaeth a dycnwch pobl fel Alun Creunantni fyddai'r cyfrolau hyn wedi gweld golau dydd, abyddai bywyd crefyddol ein cenedl gymaint âhynny'n dlotach. Bu ei gyfraniad i'r bywyd crefyddol hwnnw'n allweddol yn enwadol ac yn gydenwadol. Gwasanaethodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru mewn amryw o wahanol ffyrdd, nid y lleiaf fel Trysorydd ac fel Llywydd y Gymanfa Gyffiedinol. Bu'n aelod o Fyrddau Cymorth Cristnogol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig a bu'n llywio sawl apêl yn enw Cymorth Cristnogol. Gwasanaethodd fel ail Drysorydd CYTUN yn genedlaethol, bu'n aelodoGyngor Ysgolion Sul Cymru abu'n un o ymddiriedolwyr CymdeithasyBeibl. BuomyncydweithiofelaelodauoGyngor Prifysgol Cymru Aberystwyth am nifer o flynyddoedd ac yn gwasanaethu ar amryw o bwyllgorau gyda'n gilydd. Wedi ei ymddeoliad yn 2003 o Gyngor y Brifysgol ac ar gynnig yr Is- Ganghellor presennol, yr Athro Noel Lloyd, fe'i hurddwyd yn Gymrawd y Brifysgol. Roeddwn yn hynod o falch mae i fi y daeth yr anrhydedd o'i gyflwyno. Gwn fod yr achlysur wedi ei blesio'n fawr iawn er rhaid dweud mai Alun Creunant fyddai'r olaf i chwenychu am unrhyw anrhydeddau yn wyneb yr hyn a gyflawnodd. Beth, tybed oedd yn cymell Alun i gytlawni'r holl a wnaeth? Gellid nodi nifer o bethau. Ei gonsýrn am ddirywiad crefydd yn ein gwlad. Ei gonsýrn am ddatblygiad unigolyddiaeth a'i ddylanwadaudinistriolargymdeithas. Ei gonsýrn am eraill. Ei gariad at y Gymraeg ac at genedl y Cymry. Bod ei fagwraeth a' i ffydd yn ei yrru i roi yn ddiarbed o'i hunan. Do, bu llawr o bethau yn ei gymell ond efallai bod y pennaf ohonynt i'w weld yn yr englyn hwn o waith y Parchedig John Gwilym Jones englyn a gyfansoddwyd wrth gyflwyno Caneuon Ffydd i'r genedl Cynhaeaf y Caneuon rown i wlad Rhown lyfr mewn gobeithion Y daw Duw, drwy'r gair a'r dôn Eilwaith i hawlio'i chalon Doedd cartref Alun a'r teulu ym Maes Lowri ond ychydig o daith gerdded o'm swyddfa a byddai'n galw heibio 0 leiaf unwaith yr wythnos i drafod rhyw fater neu'i gilydd. Am gyfnod yn yr 1980au a'r 1990au bu'r ddau ohonom yn gwasanaethu fel Trysoryddion ein henwadau. Buom yn rhannu ein profiadau, ein pryderon a'n gobeithion. Roedd tynnu coes yn rhan naturiol o'i gyfansoddiad. Nodwedd arall amlwg ohono oedd ei deyrngarwch i'r sefydliadau yr oedd yn perthyn iddynt. Nid bod hynny'n golygu bod yn dawedog yn wyneb unrhyw wendid. Cysondeb ei ymddygiad a chryfder ei argyhoeddiadau oedd yn nodweddu ei gymeriad. Dyma ddyn oedd yr un mor nerthol yn pregethu'r Gair ym mhulpudau cefn gwlad Ceredigion a thu hwnt ag yr oedd yn amddiffyn buddiannau Cymru yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Beibl yn Swindon. Hawdd dweud na welwn berson tebyg iddo yn y Gymru gyfoes. Mae'n sicr y daw eraill i wasanaethu ar ei ôl ond anodd gennyf gredu y bydd unrhyw berson yn barod i roi cymaint i wasanaethu eraill. Hyderwn y bydd ei ymrwymiad a'i ddyfalbarhad yn symbyliad i eraill. Diolch am gael adnabod cyfaill da, cydweithiwr, cymwynaswr ac un a wasanaethodd mor wiw mewn cynifer o wahanol ffyrdd. Richard Morgan