Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Almanac Cyntaf Sion Rhydderch. LLITHRODD llyfryddwyr gofalus fel Ifano, a'r diweddar Thos. Shankland, a'r Prif-athro J. H. Davies, ynglyn a chofnodi blwyddyn cyhoeddi Almanac cyntaf Sion Rhydderch. Fel a ganlyn y cofnododd Ifano yn ei lyfr ar Hanes y Wasg yng Nghymru a Mynwy — Towards the end of September, 1735, as in pre- vious years since 1712, when he issued for the first time his Almanac (that for 1713), Shon Rhydderch had compiled the 1736 issue described on its title page as the 21st; he had therefore between 1712 and 1735 missed three years.' A chroniclodd Thos. Shankland yn Nhrafodion Cym- deithas Hanes y Bedyddwyr am y flwyddyn 1912-13:- Cyhoeddodd S. R. ei Almanac cyntaf am y flwydd- yn 1713, a'r olaf am y flwyddyn 1736. Yn ol wyneb- ddalen Almanac 1736, dywedir mai yr 21 argraffiad oedd hwnnw. Naill y mae camgyfrif neu y mae tair blynedd o dorr yng nghyfres Sion. Cofnoda Moses Williams gopiau am 1714 hyd 1717, yr ail hyd y pumed. Mae copi o un 1718 yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ac y mae'r copiau o 1725, y degfed ar- graffiad, hyd 1736 yn rheolaidd, felly rhaid fod yr afreoleidd-dra rhwng 1719 a 1724.' Ond odid mai cymeryd eu camarwain gan Moses Wil- liams a ddarfu'r ddau uchod; gan i hwnnw fynegu ddar- fod i Sion Rhydderch gyhoeddi ei Almanac cyntaf am 1714; ond diameu mai blwyddyn ei argraffu a roddasai hwnnw i lawr, gan fod rhaid argraffu Almanac 1715 yn 1714. Yn ffodus iawn perchenogem unwaith Almanac S. Rhydderch am 1722, yr unig gopi sydd ar gael a chadw hyd y gwyddom a setlia hwnnw broblem y dyddiadau yn derfynol, a phrofa mai un flwyddyn yn unig a slipiwyd gan Sion Rhydderch (sef y flwyddyn 1721), ac nid tair.