Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

THE JOURNAL OF THE Welsh Bibliographical Society VOL. V. JANUARY, 1940. No 4. Hen Bapurau Newydd. DR. THOMAS Richards. (i) Y Figaro cyntaf, a'r Philo-Figaro. WRTH ysgrifennu erthygl ar Lenyddiaeth Newyddiadurol Cymru i'r Traethodydd am Ebrill, 1884, torrodd y diweddar John Davies (Gwyneddon) dir newydd ryfeddol drwy son am Y Figaro a gyhoeddwyd ym Mangor yn 1843 (td. 183-184), canys nid oedd air am y papuryn hwn gan Alltud Eifion yn ei restr (Brython Tremadog, ii, Awst, 1859, 154-155), nac ychwaith yn yr adysgrifiad ohoni yn y Cymru coch (ii, 223), nac ychwaith yn y rhestr a geir yn Trans. Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1883 (td. 217-236). Yn araf, araf iawn, y cydnabuwyd cyfraniad Gwyneddon i hanes papurau newydd Cymru: y cyntaf i wneud hynny oedd yr hen gyfaill William 1 Araith a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol y Welsh Biblio- graphical Society, 1938, yng Nghaerdydd. — Editor. Dymuna'r Ysgrifennydd ddiolch yn gynnes iawn i awdurdodau'r Amgueddfa Brydeinig a'r Llyfrgell Genedlaethol am fanylion parod; i Mr. Bob Owen; i Mr. Hubert Morgan am roddi benthyg y Figaro sydd yn Llyfrgell Salesbury; ac i Mrs. Carter o Gaemarfon, am fenthyg y deg rhifyn sydd ganddi hi. — T. R.