Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYDDIADAU CYHOEDDI "O'R BALA I GENEVA", "TRO YN YR EIDAL" A "TRO YN LLYDAW PAN ymgymerais a golygu detholion o'r tri llyfr uchod gan Syr Owen M. Edwards ar gyfer y bedwaredd gyfrol, Teithio'r Cyfandir, yn y gyfres ddathlu ddiweddar o'i weithiau, fe'm trawyd gan yr anghysondeb a welir yn y dyddiadau a roddwyd o bryd i'w gilydd i'r argraffiadau cyntaf o'r llyfrau hyn, a chan yr ansicrwydd a fu ynghylch trefn eu cyhoeddi. Bernais y byddai'n fuddiol ceisio datrys y broblem yn derfynol, ac o dipyn i beth fe gefais y dystiolaeth angenrheidiol. Cyn cyflwyno'r dystiolaeth honno, ystyrier rhai o'r pethau a ddywedwyd am drefn a dyddiadau cyhoeddi'r llyfrau gan rai a fu'n ysgrifennu am Syr Owen M. Edwards. Yn ei fywgraffiad byr o Syr Owen M. Edwards yn The Dictionary of National Biography, 1912-21 (Oxford 1927) y mae G. P[rys] W[illiams] yn bendant mai'r llyfr a gyhoeddwyd gyntaf oedd O'r Bala i Geneva: In 1889 there appeared O'r Bala i Geneva it was fol- lowed in rapid succession by others.' Yn 1930 yr oedd yr Athro R. T. Jenkins yn credu hynny, fel y dengys y geiriau canlynol yn ei ysgrif Owen M. Edwards' yn Y Llenor ix. t. 12 Enw llyfr cyntaf Owen Edwards oedd O'r Bala i Geneva ac yn 1889 yr oedd eto'n rhaid mynd trwy Rydychen i fynd o'r Bala i Lundain a thu hwnt.' Yn ysgrif yr un gwr ar Syr Owen Morgan Edwards' yn Y Byw- graffiadur Cymreig hyd 1940 ceir geirio llai sicr Bwriodd (sc. Owen Edwards) wedyn (sc. ar 61 graddio yn Rhydychen yn 1887) flwyddyn ar y Cyfandir, blwyddyn yr adroddir ei hanes yn ei ddau lyfr cyntaf, 1888; yna dychwelodd i Rydychen i gyfrannu dysg, ac yn 1889 etholwyd et yn gymrawd o Goleg Lincoln, ac yn diwtor hanes yno acmewncolegaueraiU.' Y ddau lyfr cyntaf' y cyfeiria'r Athro R. T. Jenkins atynt yw O'r Bala i Geneva a Tro yn yr Eidal. Yn Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards gan Mr. Gwilym Arthur Jones (Aberystwyth, Cwmni Urdd Gobaith Cymru, 1958)