Symud i'r prif gynnwys

Y MEDDWL YMNEILLTUOL Anerchiad y Llywydd yng Nghynhadledd Flynyddol Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Cymru, Coleg Harlech, 29 Awst 1950 Nid wyf yn athronydd ond yr wyf yn rhyw fatho Ymneilltuwr (er fy mod yn deall bod un aelod hybarch o Gyngor Undeb yr Annibynwyr wedi amau hyd yn oed hynny un tro) ac y mae hanes a dyfodol Ym- neilltuaeth yn bynciau agos iawn at fy nghalon yn wir y mae dyfodol Ymneilltuaeth yn bwnc sy'n peri llawer o wewyr enaid i mi. Hyn, yn anad dim arall, yw'r unig gyfiawnhad tros yr anerchiad hwn. Coeliwch fi pan ddywedaf mai'r Meddwl Ymneilltuol yw hanfod Cymru i mi. Y mae rhai sylwadau cyffredinol yn hanfodol er mwyn gweld yn glir gefndir y sectau Ymneilltuol. Yr oedd Eglwys yr Oesoedd Canol yn gyfundrefn geidwadol, cyfundrefn a dderbyniai'r byd seciwlar er mwyn arglwyddiaethu ar y werin a'r miloedd. Mewn egwyddor, eglwys gyffredinol ydoedd, yn ymwneuthur â holl fywyd y ddynol- iaeth gyfan. Derbyniai'r Eglwys y Wladwriaeth a'r dosbarth llywodraethol fel elfennau yn ei bywyd yr oedd hi yn rhan fywiol o'r drefn gymdeithasol, yn llunio ac yn llywio'r drefn honno. Edrychai'r Eglwys ar y drefn seciwlar fel cyfrwng a pharatoad ar gyfer bwriad goruwchnaturiol bywyd dan ei chyfarwyddyd union- gyrchol hi. I'r byd eglwysig ceidwadol, cyfundrefnol hwn y daeth yr Ymneilltu- wr yn ei dro. Ac fe ellir gwneuthur nifer o honiadau cyffredinol amdano ef a'r sectau y perthynai iddynt. Nid cyfundrefn gyffredinol a oedd ganddo ef nid ei amcan oedd arglwyddiaethu ar y werin a'r miloedd. I gymdeithas fechan y perthynai o'r dechrau cyntaf, fe orfodwyd yr Ymneilltuwyr i ymdrefnu mewn cymdeithasau bychain ac i ymwrthod â'r syniad o dra-arglwyddiaethu ar y byd. Gallent anwybyddu neu oddef neu fod yn elyniaethus i'r Wladwriaeth a'r byd a chymdeithas yn gyffredinol gan na fynnent eu gorchfygu ond yn hytrach fod yn annibynnol arnynt. Nid y wladwriaeth a'r dos- barth llywodraethol oedd eu colofnau hwy ond yn hytrach casglent eu nerth o'r hyn a elwid gynt yn ddosbarth canol ac isaf ac o blith y rheini a oedd yn elyniaethus i'r wladwriaeth ac i'r byd. Daliai'r Ymneilltuwr ei fod ef yn bersonol mewn cysylltiad uniongyrchol â'r goruwchnaturiol nid oedd iddo un offeiriad ond Iesu Grist ei hun bywyd caled i baratoi at yr uno tragwyddol â'i Dduw oedd bywyd yr Ymneilltuwr. Cymerai'r Bregeth ar y Mynydd fel ei ddel- fryd daliai fod Teyrnas Dduw yn gwrthwynebu diddordebau seciwl- araidd. Ymgadw rhag y byd oedd ei nod rhwymyn cariad oedd yr