Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

sicrheid yn araf ac yn boenus yn foleciwlar drwy ryfel safle. Yr oedd y pwer dosbarth a oedd wedi rheoli hyd yma wedi sicrhau ei ewyllys genedlaethol-werinol nid drwy ideoleg dosbarth, ond yn benodol drwy un a oedd yn ddiddosbarth. Gweithredai pwer y dosbarth a reolai drwy'r modd y rhoddai ideoleg ddiddosbarth fynegiant i fuddiannau ac ideolegau pob grwp is-drefnol o gwmpas y dosbarth hanfodol, a'u cysylltau â'i gilydd. Dyna oedd ei wyriad mawr oddi wrth y ddamcan- iaeth farcsaidd safonol o strwythur ac uwch strwythur. Ei hunig diriogaeth bosibl oedd eiddo cenedl a ail-droswyd mewn modd addas. A byddai'r blaid a fyddai'n angenrheidiol i'r ymgymeriad hwnnw yn wahanol i'r un blaid arall a welsai'r byd cyn hynny. (Nid yw wedi gweld plaid debyg er hynny chwaith). Y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod amwysedd yng nghysyniad Gramsci o'r blaid a fyddai'n peri i'r trosi hyn ddigwydd. Cydnabyddant fod Gramsci fel petae'n glynu wrth ryw amcan o blaid ddisgybledig, brofTesiynol Lenin, tra'n sôn ar yr un pryd am yr angen am ffurfiant torfol, agored, o fath rhyddgredol. Y mae'r uniongrededd Gramsciaidd gyfredol yn gweld ei blaid ef fel plaid dorfol, agored, gwbl ddemocrataidd, nad yw hyd y gwelaf, ac eithrio mewn tôn ac arddull, yn wahanol i ddemocratiaeth gymdeithasol safonol. Nid dyna fel y deallaf fi blaid Gramsci. Hyd y gwelaf i, y ffurf y cyrhaeddodd ef ati oedd ffurf pob mudiad chwyldroadol llwyddiannus mewn hanes: math o Saeryddiaeth Rydd Agored gyda gwahanol raddfeydd a safonau, model sy'n deillio yn y pen draw, wrth gwrs, o fudiadau crefyddol mynachaidd a chardotaidd mwy radicalaidd y Canol Oesoedd. Ond byddai'r grym y byddai'r blaid hon yn ei ymgynnull yn ei ryfel safle yn sicr yn llawer mwy na'r 'gynghrair' weddol safonol o gwmpas y dosbarth gweithiol. Ni byddai'n gwestiwn, a chymryd enghraifft gyfoes, o ymgynnull mudiadau'r menywod, neu fudiadau ieuenctid, neu fudiadau iaith, mudiadau heddwch, mudiadau ecoleg o gwmpas rhyw Blaid Lafur neu Blaid Gomiwnyddol neu Blaid Cymru, neu o ryw Socialist League yn sleifio'u gweledyddion hwy i mewn i fudiadau eraill. Pwrpas canolog plaid gomiwnyddol Gramsci oedd gwasanaethu, Sewir le Peuple chwedl y Maoists gynt. Gweithio er mwyn rhyddhau a chlirio llwybr ar gyfer grwpiau eraill i ddatblygu eu hideolegau a'u dulliau annibynnol eu hunain. Tra'n gwneud hynny, byddai'n rhaid i'r blaid gomiwnyddol glirio'r ffordd er mwyn i'w phobl ei hun, y gweithwyr, ymryddhau drwy hunan-reolaeth yn y man gwaith a hunan-fynegiant. Credai Gramsci y byddai'r broses hon, o'i chyplysu'n gywir yn ei rhyfel safle, wrth y gwrthddywediadau yr esgorir arnynt beunydd gan y grymoedd gweithredol sydd ar waith yn y modd o gynhyrchu, ynddi ei hun yn gyfrwng hel ynghyd o fewn Saeryddiaeth Rydd Agored neu urddau mynachaidd ei blaid gomiwnyddol floc hanesig y byddai efallai, pe bai wedi bod yn Gymro, wedi ei alw'n werin yn ymdrechu i sicrhau ei